‘Hynod siomedig’: Plannu coed yn Uganda wedi troi yn ‘bêl-droed wleidyddol’
Mae dirprwy gyfarwyddwr elusen newid hinsawdd wedi dweud ei bod hi’n “hynod siomedig” bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu rhoi’r gorau i ariannu rhaglen i blannu coed yn Uganda.
Dywedodd Barbara Davies-Quy fod y pwnc wedi ei droi yn “bêl-droed gwleidyddol” yn y Senedd ac na fyddai torri’r rhaglen yn datrys problemau cyllid cyhoeddus Cymru.
Mae’r Ceidwadwyr a Reform UK wedi gwrthwynebu ’r cynllun yn y Senedd gan ddweud ei fod yn wastraff arian.
Mae Cymru wedi rhoi mwy na £4m i’r elusen newid hinsawdd Maint Cymru ers 2015 i weithio gyda chymunedau brodorol i blannu coed yn y wlad yn Affrica.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod pwysau ar y gyllideb yn golygu bod yn rhaid gwneud "penderfyniadau anodd".
Bydd yr elusen yn colli ei grant ar gyfer y cynllun ddiwedd mis Mawrth 2027.
Mae Helen Jenner, arweinydd y brif wrthblaid yn y Senedd, Reform UK, wedi croesawu “rhoi’r gorau i gynllun chwerthinllyd a woke”.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar, ei fod yn “warthus” bod arian o’r fath wedi ei wario yn Affrica tra bod y gwasanaeth iechyd ac ysgolion “heb gael yr arian maen nhw eu hangen”.
Ond dywedodd Barbara Davies-Quy o Maint Cymru fod y rhaglen yn costio 0.001% o gyllideb Llywodraeth Cymru ac wedi arwain at blannu dros 26 miliwn o goed.
“Rydyn ni’n hynod o siomedig ar adeg lle mae newid hinsawdd wedi mynd tu hwnt i’r targedau a osodwyd gan Gytundeb Paris,” meddai wrth raglen Sunday Supplement.
“Rydyn ni gyd yn rhannu’r un atmosffer ac felly mae beth sy’n digwydd yn Uganda yn effeithio arnon ni i gyd.
“Mae coed yn tyfu o leiaf pedair i bum gwaith yn gyflymach yn y trofannau, ac maent yn amsugno carbon yn llawer cyflymach.
“Felly, yn y cyfnod y mae'r rhaglen wedi bod ar waith, rydyn ni wedi amsugno 1.4 miliwn o dunelli o garbon o’r aer.
“Ni fydd torri'r rhaglen hon yn datrys problemau Cymru o ran cyllid cyhoeddus a gwariant.
“Dw i’n meddwl ein bod ni wedi dod yn bêl-droed wleidyddol, ac mae’n drist iawn dweud ein bod ni wedi anghofio’r bobl sydd y tu ôl i’r rhaglen.
“Y ffermwyr dw i wedi’u cyfarfod, y menywod dw i wedi’u cyfarfod sydd â theuluoedd o bump o blant, sy’n byw ar lethrau serth Mynydd Elgon ac sydd wedi dioddef tirlithriadau.
“Y tro diwethaf roeddwn i yno, roedd tirlithriadau difrifol wedi lladd dros 100 o bobl. Felly rydyn ni wir wedi anghofio’r stori go iawn, y bobl go iawn sydd y tu ôl i’r rhaglen.
“Nid dim ond coed heb wynebau yw’r rhain.
“A dw i’n meddwl mai dyma un o’r enghreifftiau cliriaf sydd gan Gymru o ddangos effaith fyd-eang a gwerth am arian.”
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi grant o £280,000 y flwyddyn i’r elusen i gynnal rhaglen addysg yn ysgolion Cymru.
