Costio gormod i ailadeiladu llong ganoloesol a gafodd ei darganfod yng Nghasnewydd

Llong ganoloesol

Mi fyddai’n costio gormod i ailadeiladu llong ganoloesol a gafodd ei darganfod yng Nghasnewydd oni bai bod cyllid newydd sylweddol yn dod i’r amlwg, yn ôl rhybudd gan y cyngor.

Mae adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan gyngor y ddinas yn amcangyfrif y byddai creu cartref parhaol i arddangos y llong yn costio o leiaf £27.5 miliwn.

Cafodd olion y llong fasnach o’r 15fed ganrif eu darganfod wedi’u claddu yn y mwd ar lan Afon Wysg wrth adeiladu Theatr Glan yr Afon yn 2002.

Roedd arbenigwyr wedi rhyfeddu at ba mor dda roedd y llong wedi’i chadw, gan ei disgrifio fel un o ddarganfyddiadau hanesyddol pwysicaf y byd o’i chyfnod.

Ar ôl ymgyrch gyhoeddus i achub y llong, cafodd yr olion eu cloddio o’r safle fesul darn dros gyfnod o fisoedd lawer.

Dros y blynyddoedd, mae pob darn wedi cael ei sychu’n araf a’i gadw. Mae’r 2,500 o wrthrychau yn cael eu storio yng Nghanolfan Llong Casnewydd yn Queensway Meadows.

Mae Cyngor Casnewydd yn dweud ei fod wedi ymrwymo i dalu costau presennol storio’r llong, sef £115,000 y flwyddyn yn ôl yr adroddiad.

Ond mae’n rhybuddio y byddai angen adeilad mwy, gyda’r gallu i reoli’r tymheredd a’r amodau amgylcheddol, hyd yn oed i roi rhan o’r llong yn ôl at ei gilydd. 

Mae’r adroddiad yn rhybuddio mai nifer “cyfyngedig iawn” o adeiladau addas sydd ar gael yn lleol.

Mae’r adroddiad hefyd yn codi pryderon am gostau parhaus rhoi cymhorthdal i unrhyw gartref parhaol, hyd yn oed pe bai ymwelwyr yn talu i ymweld.

Image
Y llong yn y fan a'r lle yn 2002
Y llong yn y fan a'r lle yn 2002

Dywedodd arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Dimitri Batrouni, wrth Newyddion ITV fod y llong yn “rhan o hanes a gwead Casnewydd”. 

Ond dywedodd y byddai angen partneriaid a chyllid allanol sylweddol ar y cyngor i gael safle a rhedeg cartref parhaol iddi.

“Y senario orau yw ein bod ni’n dod o hyd i le addas mewn lleoliad canolog ac yn adeiladu cyfleuster sy’n gwneud y mwyaf o bwysigrwydd a gogoniant y llong,” meddai.

“Bydd angen partneriaid a llawer o gefnogaeth i wneud hynny.”

Bydd aelodau’r cabinet yn trafod yr opsiynau mewn cyfarfod ar 11 Tachwedd, gydag argymhelliad i barhau â’r trefniadau presennol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.