Rhybudd y gallai caniau o gawl Baxters fyrstio
Mae cwsmeriaid sydd wedi prynu caniau o gawl pysgod yn cael eu hannog i gael gwared arnyn nhw mewn biniau y tu allan oherwydd pryderon y gallai'r caniau fyrstio.
Mae cwmni Baxters wedi penderfynu tynnu eu caniau o gawl Chef Selections Cullen Skink, sef cawl hadog, yn ôl oherwydd nam gweithgynhyrchu a allai ddifetha’r cynnyrch ac achosi i'r caniau “chwyddo a byrstio” yn ôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA).
Os bydd y cawl wedi difetha, bydd ganddo arogl a blas “amhleserus” meddai’r FSA.
Dywedodd y cwmni o’r Alban y gallai’r broblem effeithio ar y caniau 400g gyda’r cod L07XC, a dyddiad ar ei orau (best before) o fis Ebrill 2029.
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd yr Alban wedi cyhoeddi’r un rhybudd.
Mae cwsmeriaid a brynodd y cawl yng Nghymru, Lloegr a’r Alban wedi cael eu cynghori i beidio â’i fwyta, ac i gael gwared ar y can gyfan heb ei agor.
“Gosodwch y can yn llawn mewn bag, a cheisiwch gael gwared arno mewn bin allanol,” meddai’r FSA wrth gwsmeriaid.
Os bydd pobl yn dymuno cael cynnyrch yn ei le, mae modd iddyn nhw gysylltu â thîm gofal cwsmeriaid Baxters.