Yr heddlu'n datgan ‘digwyddiad difrifol’ wrth i ddau gael eu harestio yn Abertawe

Ffordd cClase ger archfarchnad Asda

Mae’r heddlu wedi datgan “digwyddiad difrifol” wrth i ddau gael eu harestio yn Abertawe.

Daw hyn ar ôl adroddiadau bod heddlu arfog wedi bod yn ymateb i ddigwyddiad yn ardal Treforys yn Abertawe.

Mae fideo sy'n cylchredeg ar-lein yn dangos swyddogion heddlu wrth ymyl car sy'n ymddangos fel pe bai wedi cael ei daro gan ergyd o wn.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod swyddogion yn parhau yn bresennol ar Ffordd Clase ar yr A48 ar ôl digwyddiad yn gynharach heddiw.

Mae cerbyd ar yr A48 wedi cael difrod “sy'n gyson ag ergyd o ddryll”.

Mae dyn 41 oed o Lansamlet wedi cael ei arestio ar amheuaeth o feddu ar ddryll gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Mae bachgen 16 oed, sydd hefyd o Lansamlet, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o affräe (affray). Mae ymchwiliad troseddol ar y gweill.

“Mae hwn bellach wedi cael ei ddatgan yn ddigwyddiad difrifol,” meddai’r heddlu.

Mae rhagor o ffyrdd bellach ar gau o gylchfan Asda i Ffordd Clase ar yr A48, ac ar Ffordd Clase hyd at ffordd ddeuol yr A4067.

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Stephen Jones: "Bydd presenoldeb yr heddlu i'w weld yn yr ardal tra bod yr ymchwiliad hwn yn parhau.

"Mae'n bwysig bod pobl yn osgoi'r ardal er mwyn i ni allu delio â'r digwyddiad hwn yn effeithiol a chael yr ardal yn ôl i normal.

"Rydyn ni'n ymwybodol o fideos sy'n cael eu rhannu ar-lein yn ymwneud â'r digwyddiad hwn."

Dywedodd y dylai unrhyw un sydd wedi gweld y digwyddiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth neu fideos i'w rhannu â'r heddlu gysylltu â nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.