Y Gweinidog Addysg yn gwrthod galwadau i atal cau ysgolion Cymraeg

Newyddion S4C
Anna Brychan

Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y syniad o atal cau unrhyw ysgol cyfrwng Cymraeg yn genedlaethol.

Dywedodd Anna Brychan mai “cyfrifoldebau awdurdodau lleol” yw penderfyniadau am ddyfodol ysgolion, yn hytrach na chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.

Daw ei sylwadau ar ôl i lywodraethwyr yn rhai o ysgolion Sir Gaerfyrddin ysgrifennu ati yn galw am gyflwyno moratoriwm ar gau ysgolion o'r fath.

Mae'r cyngor yn cynnal ymgynghoriad ar gynigion i gau pedair ysgol gynradd yn y sir.

Mae rheiny'n cynnwys Ysgol Blaenau ger Llandybie, Ysgol Pontiets, Ysgol Carwe ac Ysgol Bancffosfelen yng Nghwm Gwendraeth.

Fis diwethaf fe ysgrifennodd llywodraethwyr tair o'r ysgolion at y gweinidog addysg yn galw am "foratoriwm ar gau unrhyw ysgol cyfrwng Cymraeg am y tro".

Ychwanegodd y llythyr: "Mae polisi Sir Gâr yn taflu tanwydd pellach ar goelcerth sydd eisoes yn llosgi tu hwnt i reolaeth, ac mae angen ymyrraeth frys rhag inni weld y cyfan yn mynd yn ulw."

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Anna Brychan fod trafodaethau ar gau ysgolion yn "anodd iawn".

"Fel gweinidog cabinet, dw i ddim yn gallu gwneud sylwadau ar gynlluniau penodol mewn awdurdodau lleol gwahanol, gan y gallase rhai o'r penderfyniad yma gael eu cyfeirio at weinidogion yn y pen draw."

Fe gafodd ei holi a oedd hi wedi ymateb i'r llythyr hwnnw a beth oedd ei safbwynt ar yr alwad am foratoriwm.

"Rwy wedi derbyn, y llythyr hwnnw. Yn amlwg, bydda i yn ymateb iddo fe, ond fel fi'n dweud, mae'r cyfrifoldebau hynny yn gorwedd gyda awdurdodau lleol."

Dywedodd hefyd fod y trafodaethau yma yn rhai "poenus".

"Mae trafod addysg plant, mae fe mor ganolog i gyfrifoldebau rhieni.

"Mae fe mor ganolog i gyfrifoldebau llywodraeth hefyd. Mae addysg plant yn bwysig. Fi, wrth gwrs, yn teimlo mai hwn yw'r peth mwyaf pwysig gallwn ni gyfrannu, fel llywodraeth a'r cyfrifoldeb pennaf sy gyda ni ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

"Ond penderfyniadau addysgol yw'r rhain, ac mae 'na ganllawiau sydd i'w gweithredu wrth edrych ar hyn."

Image
Dr Huw Williams
Dr Huw Williams

Mae Cyngor Sir Gâr wedi disgrifio sefyllfa ariannol ei ysgolion fel un “anghynaladwy”.

Mae'r cyngor yn dweud bod nifer y plant o oedran ysgol gorfodol yn ei ysgolion cynradd ym mis Ionawr 2026 dros 1,000 yn llai nag yn 2021.

Yn ôl ei ffigurau, mae dros 3,500 o leoedd gwag ar draws 94 ysgol gynradd y sir, sef dros 20% o’r holl leoedd.

Mae Dr Huw Williams, rhiant a llywodraethwr yn Ysgol Pontiets, yn un o'r rheiny a ysgrifennodd y llythyr.

Dywedodd fod swyddogion swyddogion yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru i “godi bloc arall ym Mhontyberem er mwyn cau ysgol Bancffosfelen”.

Ychwanegodd: “Felly mae’n ffantasi mai arna i ofn ac yn gamarweiniol i ddweud nad ydi llywodraeth ganolog i’r darlun yma a bod nhw’n rhan o’r cynllunio.

"Mae’r math yma o beth yn erydu ffydd mewn democratiaeth a dweud y gwir.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.