Tro pedol i gynllun baner Jac yr Undeb enfawr ar adeilad yng Nghaerdydd

Mae cynllun i orchuddio cornel adeilad yng Nghaerdydd gyda baner Jac yr Undeb anferth wedi dod i ben.
Y bwriad oedd codi baner 105 troedfedd o uchder ar dalcen swyddfa dreth Tŷ William Morgan yn y ddinas.
Ond mae'n debyg fod y gost o wneud hynny wedi cynyddu i dros £180,000 i'r trethdalwyr medd Nation.Cymru.
Fe wnaeth bron i 20,000 o bobl lofnodi deiseb yn gwrthwynebu'r cynllun, wedi iddo dderbyn caniatâd cynllunio.
Darllenwch y stori'n llawn yma.