Drama newydd Owain Glyndŵr yn ‘gyfrifoldeb enfawr’ medd Michael Sheen

ITV Cymru
Michael Sheen fel Owain Glyndwr

Mae Michael Sheen wedi dweud bod ei ddrama newydd am fywyd Owain Glyndŵr a fydd yn agor ddiwedd y mis yn “gyfrifoldeb enfawr”.

Bydd y drama am wrthryfel yr uchelwr Cymreig yn erbyn coron Lloegr ar ddechrau'r 15fed ganrif yn agor ar 28 Tachwedd.

Mae drama Owain & Henry, sydd wedi ei hysgrifennu gan Gary Owen, wedi ei chyfarwyddo ar y cyd gan Michael Sheen a Steffan Donnelly ac fe fydd Sheen a Linus Roache yn y prif rannau.

“Mae’r cyfrifoldeb o adrodd y stori hon, a’r ffaith nad yw hi erioed wedi cael ei hadrodd ar y fath raddfa o’r blaen, yn golygu bod y cyfrifoldeb yn enfawr,” meddai Sheen.

“Beth sy’n bwysig i ni, a beth ddylen ni frwydro drosto? Roedd y cwestiynau hynny’n fyw iawn, iawn wrth ddatblygu’r darn hwn. 

“Fydd hwn ddim yn gynhyrchiad lle mae pobl yn cerdded ar y llwyfan gyda ffonau symudol. Rydyn ni eisiau i bobl deimlo eu bod nhw wir wedi cael eu cludo i gyfnod arall. 

“A dw i’n gwybod yn iawn y bydd gan y bobl sy’n dod eu syniadau eu hunain am beth maen nhw eisiau ei weld ynddo a beth mae’r stori’n ei olygu iddyn nhw. 

“A fydd hi ddim o reidrwydd yr hyn mae pawb yn ei ddisgwyl, ti’n gwybod? 

“Felly dw i’n gwybod bod hynny’n rhan o’r hyn y mae’n rhaid i ni ei reoli. Ond os nad yw’n codi ofn arnon ni, dyw hi ddim yn werth ei wneud, nac ydy?”

Image
Michael Sheen
Michael Sheen

'Fersiwn yr enillwyr'

Dywedodd Michael Sheen ei fod yn credu ei fod yn ddyletswydd ar theatr genedlaethol - Welsh National Theatre, y mae Michael Shene yn gyfarwyddwr creadigol arni - i drafod pynciau cenedlaethol.

“Os ydych chi’n galw eich hun yn theatr genedlaethol, yna rhan o’ch dyletswydd yw creu llwyfan a chyd-destun i gael sgyrsiau am y pynciau hyn,” meddai.

“Bydd y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru wedi clywed am Owain Glyndŵr. Bydd rhai yn gwybod llawer am y stori, ond ychydig iawn fydd y mwyafrif yn wybod. 

“Fe wnaeth Shakespeare ysgrifennu fersiwn o’r stori hon yn Henry IV, rhannau un a dau. Ond fersiwn o’r stori sy’n cael ei hadrodd gan yr enillwyr yw hi. 

“Dydyn ni ddim eisiau gwneud rhywbeth sy’n ddarn i amgueddfa, sydd ond yn sôn am beth ddigwyddodd bryd hynny. Mae’n rhaid iddo fod yn rhywbeth sy’n siarad â ni nawr.”

Ychwanegodd bod y syniad bod un o’r “dramodwyr gorau erioed,” Gary Owen, wedi gweithio ar y ddrama yn gyffrous iawn.

“O fewn cwpl o dudalennau, roeddwn i mewn dagrau,” meddai.

“Roeddwn i’n gyffrous. Roeddwn i... roeddwn i jyst yn meddwl ei fod yn ddarn rhyfeddol o ysgrifennu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.