‘Cwmnïau gemau Cymru’n hen ddigon abl’ i lwyddo’n rhyngwladol
Mae cwmnïau gemau fideo Cymru yn “hen ddigon abl” i greu gemau sy’n llwyddo’n rhyngwladol, yn ôl un arbenigwr ar y diwydiant.
Daw’r sylwadau’n mewn mis mawr i'r rheini sy'n ymddiddori mewn gemau fideo, gyda fersiwn newydd o The Legend of Zelda: Ocarina of Time wedi’i rhyddhau dydd Iau, a Grand Theft Auto VI i ddilyn ar 19 Tachwedd.
Yn ôl Richard Hurford, uwch ddarlithydd mewn gemau ym Mhrifysgol De Cymru, nid oes angen cwmni mawr er mwyn creu gêm sy'n boblogaidd ledled y byd.
“Dwi’n credu bod cwmnïau gemau Cymru sy’n creu gemau ar hyn o bryd yn hen ddigon abl o gynhyrchu gwaith sy’n cael cydnabyddiaeth ryngwladol ac sy’n gwerthu’n dda,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Dwi’n credu bod cwmnïau gemau Cymru’n cynhyrchu gwaith o ansawdd anhygoel, a gemau sy’n llawer o hwyl ac yn ddiddorol.”
Mae'r diwydiant gemau cyfrifadurol yn profi cyfnod llewyrchus ar hyn o bryd.
Mae ffigurau corff y diwydiant Ukie yn dangos bod defnyddwyr y DU wedi gwario £8.76bn ar gemau fideo, offer a chynnyrch cysylltiedig yn 2025, cynnydd o 7.4% ar y flwyddyn flaenorol.
Cymru a’r Alban
Fe luniodd Mr Hurford adroddiad ar ddiwydiant gemau fideo Cymru yn 2024, oedd yn cynnwys cymhariaeth â maint y diwydiant yn yr Alban.
Mae gan yr Alban gysylltiad hir â chyfres GTA, gyda stiwdio Rockstar North yng Nghaeredin wedi bod wrth wraidd ei datblygu. Mae’r gwaith ar GTA VI yn cynnwys stiwdios Rockstar mewn sawl gwlad.
Mae ffigurau TIGA ar gyfer 2023, a gafodd eu cynnwys yn yr adroddiad, yn dangos y gwahaniaeth rhwng maint y diwydiant yng Nghymru a’r Alban.
Roedd 0.6% o weithlu datblygu gemau’r DU yng Nghymru, o’i gymharu â 9.1% yn yr Alban. Mae’r ffigurau’n cyfri staff sy’n gweithio’n uniongyrchol ar ddatblygu gemau.
Roedd adroddiad y brifysgol hefyd yn nodi bod 103 o gwmnïau gemau fideo yn gweithredu yng Nghymru ym mis Ebrill 2024, sef 23 yn fwy nag yn 2021.
Yn ôl Mr Hurford, cwmnïau bach annibynnol yw’r rhan fwyaf ohonynt, gyda rhai yn cyflogi dim ond pedwar i chwech o bobl.
Mae ambell gwmni mwy yn cyflogi hyd at tua 50 o bobl, meddai, ond nid ydynt wedi cyrraedd graddfa’r cwmnïau mwyaf yn yr Alban.
Swyddi yng Nghymru
Mae enghreifftiau o gwmnïau rhyngwladol yn buddsoddi yng Nghymru hefyd.
Yn 2023, fe wnaeth cwmni Americanaidd Rocket Science gyhoeddi cynllun i sefydlu ei bencadlys Ewropeaidd yng Nghaerdydd, gyda’r nod o greu 50 o swyddi.
Cafodd y cynllun gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae gwaith y cwmni’n cynnwys helpu cwmnïau eraill i ddatblygu gemau.
Mae cadw gweithwyr medrus yng Nghymru yn un o’r heriau, yn ôl Mr Hurford.
“Mae llawer o gyrsiau gemau ar draws y prifysgolion yn cynhyrchu talent bob blwyddyn. Mae llawer o’r bobl hynny’n mynd i rywle arall i ddod o hyd i waith,” meddai.
Ond mae’n credu bod maint bach llawer o gwmnïau Cymru wedi eu helpu i osgoi rhywfaint o’r ansicrwydd yn y diwydiant rhyngwladol.
“Mae Cymru wedi cael ei diogelu i raddau rhag hynny oherwydd nad oes gennym y cwmnïau mawr hynny yma," meddai.
“Mae’n ymddangos bod y cwmnïau gemau bach yng Nghymru wedi gallu denu buddsoddiad a dod ag arian i mewn mewn cyfnod lle mae hynny’n anhygoel o anodd.”
‘Dychrynllyd o ddrud’
Mae’r gost o greu gêm yn gallu bod yn rhwystr mawr, gyda blynyddoedd o waith cyn y bydd unrhyw un yn ei phrynu.
“Mae creu gemau’n ddychrynllyd o ddrud oherwydd bod rhaid rhoi’r holl arian i mewn ar y dechrau, ac yna treulio sawl blwyddyn o bosibl yn datblygu rhywbeth,” meddai Mr Hurford.
Ym mis Ionawr eleni, fe gafodd rhaglen Academi Gemau ei lansio gan Tramshed Tech, gyda chyllid gan Cymru Greadigol.
Roedd y cynllun yn cynnig cymorth busnes a mentora i 12 o gwmnïau dros wyth mis. Roedd y cwmnïau eisoes wedi derbyn rhwng £25,000 a £50,000 yr un o gyllid datblygu i helpu i droi eu syniadau’n gynnyrch masnachol.
Dywedodd Mr Hurford fod Llywodraeth Cymru eisoes yn cynnig cefnogaeth dda, ond y byddai’n croesawu mwy o gymorth i gwmnïau bach sy’n datblygu eu gemau eu hunain.
Mae cadw’r hawliau dros y gemau hynny yng Nghymru yn bwysig, meddai, er mwyn gallu ailfuddsoddi’r enillion yma.
“Os gallwn gadw’r eiddo deallusol hwnnw’n lleol ac yna ailfuddsoddi’r enillion ohono, y gobaith yw y bydd hynny’n helpu’r diwydiant i dyfu’n lleol hefyd," meddai.
Straeon Cymru
Un cwmni sydd eisoes wedi cael llwyddiant rhyngwladol yw Wales Interactive, sydd wedi defnyddio hanes a llên gwerin Cymru yn ei gemau arswyd.
Mae ei gêm Sker Ritual yn cyfuno sombïaid, y Gymraeg a llên gwerin, gyda dylanwadau o straeon Tŷ’r Sger ger Porthcawl.
Ar ôl ei lansio ym mis Ebrill 2024, fe gyrhaeddodd y gêm y tri uchaf yn siart gwerthiant Steam, y pump uchaf ar Xbox a’r deg uchaf ar PlayStation, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae’r cwmni hefyd yn creu ffilmiau rhyngweithiol, lle mae dewisiadau’r gwyliwr yn newid trywydd y stori.
Yn 2023, fe wnaeth S4C a Wales Interactive gyhoeddi cynllun i greu ffilm ryngweithiol Gymraeg.
Yn ôl Mr Hurford, mae defnyddio straeon a diwylliant Cymru yn gallu helpu cwmnïau i gynnig rhywbeth gwahanol.
“Dwi’n credu ei fod yn helpu’r gemau hynny i sefyll allan ymhlith cynnwys sy’n gallu bod yn eithaf tebyg," meddai.
“Dwi’n credu ei bod yn dda ein bod yn defnyddio hynny ac yn gwneud y gorau ohono."
Er ei fod yn gweld arwyddion o dwf ers ei adroddiad yn 2024, dywedodd nad yw wedi dadansoddi’r data diweddaraf yn ddigon manwl i roi ffigur pendant ar faint y cynnydd.
Yn ei farn ef, gallai gymryd 10 i 15 mlynedd arall, ynghyd â buddsoddiad mawr, i gyrraedd graddfa’r cwmnïau mwyaf.
Ond mae’n obeithiol wrth i fwy o gwmnïau ddatblygu profiad o greu a rhyddhau eu gemau eu hunain.
“Dwi’n credu y bydd pethau’n newid ar ryw bwynt ac y bydd un o’r cwmnïau hyn yn gweld twf mawr," meddai.