S4C a chwmni gemau fideo arloesol o Gymru yn creu ffilm ryngweithiol
S4C a chwmni gemau fideo arloesol o Gymru yn creu ffilm ryngweithiol
Mae cwmni o Gymru sy’n creu gemau cyfrifiadurol wedi sefydlu ei hun fel un o gynhyrchwyr ffilmiau rhyngweithiol mwyaf y byd.
Cafodd Wales Interactive ei sefydlu ym Mhenarth, Bro Morgannwg yn 2011 gan Dr David Banner MBE a Richard Pring, i ddatblygu gemau ar gyfer teclynnau gemau, fel Playstation, Xbox a Nintendo.
Dros y ddegawd ddiwethaf, mae’r cwmni wedi cyhoeddi dros 30 o gemau, gan ennill dilyniant rhyngwladol a sawl gwobr, gan gynnwys Bafta Cymru a Gwobrau Technoleg Cymru.
Yn ddiweddarach, datblygodd Wales Interactive ym maes ffilmiau rhyngweithiol; ffilmiau ble mae gwylwyr yn gwneud dewisiadau dros y prif gymeriad, sydd yna yn effeithio ar y stori a ffawd y cymeriad.
Mae rhai o’u ffilmiau diweddar sydd wedi eu datblygu yng Nghymru, fel The Complex a Five Dates, wedi derbyn ymateb ffafriol yn fasnachol ac ymhlith beirniaid.
"Gwerthu'n rhyngwladol"
Dywedodd David Banner, cyd-sefydlydd a chyfarwyddwr y cwmni: “’Da ni wedi cychwyn o ddau weithiwr yn 2011 – Richard a finnau - a bellach mi ydan ni’n cyflogi tîm agos o 15 o bobl.
“Er nad ydan ni’n arbenigo yn yr iaith Gymraeg, ‘da ni wedi creu gemau yn y Gymraeg yn y gorffennol, ac mi ydan ni wedi gwthio'r diwylliant Cymreig mewn ffyrdd gwahanol.
“Mae rhai pobl yn adnabod ni am ein gemau fideo arswyd, mae eraill yn ein hadnabod am ein ffilmiau interactif.
“Mae ein teitlau wedi gwerthu ar draws y byd ac yn rhyngwladol, os ydych chi’n siarad â rhywun am ffilmiau rhyngweithiol, mi wnawn nhw sôn amdanon ni – hyd yn oed yn Tsieina, yn America, oherwydd ein holl swmp o waith.
“Mae’n rhywbeth ‘da ni’n ymfalchïo ynddo’n fawr.”
Eleni, bydd y cwmni yn datblygu 14 o ffilmiau rhyngweithiol, ac mae cynlluniau ar y gweill i gydweithio gyda S4C i greu’r ffilm ryngweithiol gyntaf yn yr iaith Gymraeg.
Y bwriad yw creu ffilm ryngweithiol Gymraeg ar gyfer consolau gemau, gyda fersiwn arbennig o’r ffilm hefyd yn cael ei darlledu ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer yn ddiweddarach.
Mae galwad hefyd i sgriptwyr o Gymru gyfrannu syniadau ar gyfer y ffilm, a fydd yn cael ei gomisiynu ar y cyd, gyda’r dyddiad cau ar 21 Gorffennaf.
"Gwthio'r iaith Gymraeg"
Nid dyma’r tro cyntaf i S4C weithio gyda Wales Interactive.
Yn 2013, cafodd gêm ei datblygu ar y cyd o’r enw Enaid Coll/Master Reebot, y gêm consol gyntaf yn y Gymraeg.
“Da ni’n ceisio bod yn greadigol er mwyn bod yn llwyddiannus, ond hefyd er mwyn gwthio’r iaith Gymraeg i lefydd ble dyw e heb gael ei weld na’i chlywed o’r blaen,” ychwanegodd David Banner.
“Y peth cyffrous am y prosiect yma gyda S4C yw y byddan ni’n dau yn mynd i rywle anghyfarwydd; ni ar deledu terrestrial, a S4C ar gemau consol , so mae’n brosiect cyffrous iawn o’r ddau safbwynt.”
Dywedodd Gwenllian Gravelle, Pennaeth Sgriptio S4C: “Mae hwn yn rhywbeth sydd erioed di cael ei wneud o’r blaen, felly ‘da ni’n rili gyffrous.
“Bydd ‘na gêm a ffilm ddrama ryngweithiol yn yr iaith Gymraeg, yn cael ei chwarae dros y byd i gyd.”
Cydnabyddiaeth gan yr Oscars?
Mae’r cynllun yn cyd-fynd â phrosiect newydd uchelgeisiol gan S4C o’r enw Sinema Cymru, mewn partneriaeth â sefydliadau Cymru Greadigol a Ffilm Cymru.
Nod y brand newydd yma yw cynhyrchu un ffilm newydd yn y Gymraeg bob blwyddyn, yn y gobaith o gael cydnabyddiaeth yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Ychwanegodd Gwenllian Gravelle: “Yn dilyn llwyddiant ein ffilmiau sinema Gwledd ac Y Sŵn dros y blynyddoedd diwethaf, fe wnaethon ni benderfynu fod hi’n hen bryd i ni gael ein nomineiddio am Oscar unwaith eto, fel 'naethon ni ryw 30 mlynedd yn ôl efo Hedd Wyn, a chyn hynny gyda Solomon a Gaynor.
“Mae fe’n ffordd o ddangos ein cynnwys yn rhyngwladol ac mae lot o bobl yn hoff o wyliau pethau yn y sinema yn fwy efallai na gwylio ar deledu, sydd ddim yn Saesneg neu hefo is-deitlau.
"Felly'r gobaith yw gallu dewis ffilm sydd yn rhoi Cymru ar y map ond hefyd yr iaith Gymraeg ar y map.”
Lluniau: Wales Interactive.