‘Wedi ei sgubo bant’: Beth ddigwyddodd i ran o Gaerdydd oedd yn cael ei galw’n ‘Iwerddon Fach’?

Iwerddon bach

Mae hanes ardal o Gaerdydd, a oedd unwaith yn cael ei galw’n “Iwerddon Fach”, yn cael sylw mewn cyfres deledu newydd.

Yn ystod y 1840au, symudodd llawer o bobl o Iwerddon i ardal Newtown ym mhrifddinas Cymru.

Ond beth ddaeth o’r gymuned Wyddelig honno?

Yn y bennod ddiweddaraf o gyfres ddogfen S4C, Cyrraedd Cymru, mae’r cyflwynydd Seren Jones yn clywed sut y symudodd dros filiwn o bobl o Iwerddon i wledydd eraill yng nghanol y 19eg ganrif.

Daeth hynny ar ôl i filiwn farw yn ystod y Newyn Mawr.

Erbyn heddiw, dim ond wal sydd ar ôl lle safai Newtown gynt yng nghanol Caerdydd.

“Mae’n rhyfeddol gymaint o’r gorffennol sydd wedi cael ei sgubo bant o’r ddinas,” meddai Seren.

“Ond cafodd un adeilad allweddol o gymuned y Gwyddelod ei achub a’i symud fesul bricsen i Sain Ffagan.”

Image
Julia Burns
Julia Burns

‘Cwbl hiliol’

Mae Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn amgueddfa awyr agored yng Nghaerdydd, ac mae tafarn y Vulcan bellach wedi’i lleoli yno.

Mae gan Julia Burns atgofion plentyndod o Newtown, ac mae’n disgrifio’r croeso a gafodd y Gwyddelod yn y cyfnod cynnar fel un “cwbl hiliol”.

“Daeth pethau’n llawer haws ar ôl cyfnod oherwydd eu bod yn bobl wyn,” meddai.

“Unwaith yr oeddent wedi colli eu hacen Wyddelig, roeddent yn edrych fel pawb arall, ac felly roedd hi’n haws iddyn nhw.”

Parhaodd Newtown yn gymuned Wyddelig fywiog tan ganol y 1960au, pan gafodd ei dymchwel.

“Roedd y morter yn fath o forter a oedd yn caniatáu i bryfed fyw ynddo. Yn anffodus, nid oedd modd achub y tai,” ychwanegodd Julia.

Image
Tiarnán O’Hagan
Tiarnán O’Hagan

‘Unigryw’

Er gwaethaf dymchwel Newtown, mae cymuned Wyddelig yn parhau i fodoli yng Nghaerdydd heddiw.

Mae St Colmcilles GAA yn glwb pêl-droed Gaeleg a hyrlio yng Nghaerdydd. 

Mae Tiarnán O’Hagan, sy’n wreiddiol o Sir Armagh, wedi chwarae pêl-droed Gaeleg ers yn dair oed.

“Rhywbeth rydyn ni’n falch iawn ohono yma yn St Colmcilles yw nad pobl Wyddelig yn unig sy’n rhan ohono,” meddai.

“Mae gennym gymaint o wahanol genhedloedd yn chwarae drosom, ac rydyn ni wir yn annog hynny.

“Rydyn ni wrth ein bodd yn cael yr elfen Gymreig. Mae hynny’n rhywbeth sy’n ein gwneud ni’n unigryw. 

“Mae gennym lawer o chwaraewyr sy’n siarad Cymraeg, ac rydyn ni’n ceisio defnyddio hynny yn ystod sesiynau hyfforddi.”

Mae cyfres ddogfen S4C, Cyrraedd Cymru, sy’n archwilio hanes mewnfudo i Gymru, bellach ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer gydag isdeitlau Saesneg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.