'Brwydr am gyfiawnder': Protestiadau yn parhau yn Ffrainc wrth i filoedd alw am newid
'Brwydr am gyfiawnder': Protestiadau yn parhau yn Ffrainc wrth i filoedd alw am newid
Am y bedwaredd wythnos yn olynol, mae degau o filoedd o bobl wedi pentyrru i lenwi strydoedd Ffrainc yn galw am newid gan y llywodraeth.
Yn wreiddiol, myfyrwyr oedd yn arwain y gad yn dweud fod eu hysgolion yn disgyn yn ddarnau, eu dosbarthiadau yn rhy fawr, a’r broses o gael mynediad at brifysgolion yn annheg.
Mae’r llywodraeth yma wedi ateb rhai o’r galwadau rheini gyda mwy o bres ar y gweill a diwygiadau’n cael eu gaddo.
Ond mewn ychydig dros fis mae’r ddadl yma’n Ffrainc wedi newid a ffyrnigo.
Mae’r protestwyr yn galw am newid mwy pellgyrhaeddol bellach, a nifer am weld newid radical i fynd i’r afael â heriau ‘bob dydd’ fel yr argyfwng costau byw.
Ddydd Iau mae degau o filoedd wedi llenwi Place de la Republique ganol Paris.
Dyma oedd man cychwyn yr orymdaith fawr ar y diwrnod o weithredu diwydiannol - streic sydd wedi’w galw gan y prif undebau.
Mae pobl yma yn dal eu baneri, eu placardiau ac yn gweiddi’n groch fod yn rhaid i rhywbeth newid gan lywodraeth Emmanuel Macron i leddfu’r pwysau ar deuloedd.
'Amddiffyn ein hawliau'
Ymhlith y protestwyr mae Harri.
Yn wreiddiol o Gymru, mae o wedi treulio'r rhan fwyaf o’i fywyd yn byw yn Ffrainc, ac fel pawb arall ar yr orymdaith wedi dod yma i leisio barn.
Yr hyn mae pobol yn protestio dros fan hyn, maen nhw’n broblemau sydd yn debyg i Brydain a holl wledydd Ewrop.
Enghraifft hawdd ydi’r ysgolion a chyflwr yr adeiladau.
"Mae’r un yn y cynnydd yng nghostau byw. Dydi ddim yn rhywbeth sydd yn broblem i Ffrainc," meddai Harri.
"Be’ sydd wedi digwydd mewn gwirionedd yw bod Ffrancwyr yn protestio dros hyn."
Mae Harri yn un o filoedd o bobl ifanc sy’n dweud nad yw’r llywodraeth yma’n Ffrainc yn deall heriau’r bobl sy’n byw yma gyda phrisiau bwyd, nwyddau a thanwydd yn codi.
Ar yr un pryd, mae cyflogau wedi aros yn wastad o gymharu â chwyddiant a dyna pam fod gymaint wedi ymuno â’r orymdaith.
Ond myfyrwyr Ffrainc sydd wedi bod yn arwain y protestiadau hyn a does dim arwydd o hynny’n cilio.
Wrth siarad efo Newyddion S4C mewn blocâd ar Rue de Rivoli, dywedodd un protestiwr: "Dwi yma i gefnogi fy ffrindiau, ac i gefnogi eu mudiad.
Yn ôl Jeanne, sy’n 16 oed, mae hawliau yn bwysig iddi.
"Mae hon yn frwydr am gyfiawnder," meddai.
O Place de la Republique mae’r orymdaith yn carlamu tuag Place de la Nation.
Mae’n daith 3km sy’n rhoi cyfle i bobl godi llais - ond nid yma oedd y lleoliad gwreiddiol.
Bwriad yr undebau oedd cynnal yr orymdaith yng nghanol y brifddinas, gan fynd heibio rhai o'r prif atyniadau twristiaeth fel y Louvre a’r Notre-Dame, ond cafodd hyn ei wrthod gan yr heddlu.
Mae nifer yn dweud fod yn arwydd arall o’r heddlu yn ceisio tawelu lleisiau a fod hynny, yn ogystal â’r hyn mae nifer yn ei ddisgrifio fel eu hymateb llawdrwm, yn brawf nad ydy’r llywodraeth wir yn poeni.
Mae’r Prif Weinidog Sébastien Lecornu wedi galw unwaith yn rhagor am bwyll, ond mae ‘na deimlad fod y system wleidyddol wedi’i pharlysu.
Mae’r llywodraeth yn straffaglu i basio'i chyllideb ac etholiad arlywyddol ar y gweill ymhen llai na chwe mis.
Mae’r arolygon barn yn dangos y gallai hi fod yn ras rhwng yr adain chwith bell a’r adain dde bell a dim un o’r ymgeiswyr am addo gormod- na dim digon - cyn y bydd etholwyr yn bwrw pleidlais.
Beth mae hynny yn ei olygu i bobl Ffrainc.
Mae gweld datrysiad i’r hyn sy’n poeni etholwyr yn y tymor byr yn anodd iawn ac o’r herwydd, mae’n anodd gweld sut bydd y dicter sydd gan bobl yma at eu gwleidyddion yn cilio.
Mae niferoedd y protestwyr i weld yn lleihau rhyw fymryn bob wythnos - ond beryg y gallen ni weld anghydfod o ryw fath gan undebau, gweithwyr, myfyrwyr a rhannau eraill o’r gymuned am y chwe mis nesaf, nes daw’r unigolyn buddugol i’r fei yn y ras arlywyddol.
Ac i’r person hwnnw, mae’r rhestr siopa gan etholwyr yn fawr.