Russell Brand yn euog o un cyhuddiad o dreisio a thri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol
Mae'r digrifwr Russell Brand wedi'i ganfod yn euog o un cyhuddiad o dreisio a thri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol.
Yn Llys y Goron Southwark ddydd Iau, daeth rheithgor i’r casgliad bod Brand yn euog o’r pedwar cyhuddiad ar ôl trafod yr achos am wyth awr a hanner.
Roedd Brand yn wynebu cyfanswm o saith cyhuddiad: tri o dreisio, tri o ymosod yn rhywiol ac un o geisio cyflawni ymosodiad anweddus.
Daeth y rheithgor i'r casgliad ei fod yn ddieuog o ddau gyhuddiad o dreisio ac un cyhuddiad o geisio cyflawni ymosodiad anweddus.
Mae’r honiadau’n ymwneud â chwe menyw ac yn dyddio o’r cyfnod rhwng 1999 a 2009.
Mae gan bob un o’i ddioddefwyr yr hawl i aros yn ddienw am weddill eu hoes.
Rhagor i ddilyn.