Cyn-enillydd Cân i Gymru'n pledio'n euog i dwyll yn ymwneud â bridio cŵn yn anghyfreithlon

Sara Davies

Mae cyn-enillydd Cân i Gymru wedi pledio'n euog mewn achos o dwyll yn ymwneud â bridio cŵn yn anghyfreithlon.

Fe wnaeth Sara Pritchard Davies, sy'n 29 oed ac sy'n wreiddiol o Hen Golwyn, ymddangos yn Llys y Goron yn Abertawe brynhawn dydd Iau.

Clywodd y llys fod Ms Davies wedi cymryd rhan mewn busnes at ddiben twyllodrus, sef bridio cŵn yn anghyfreithlon, rhwng 1 Mawrth 2015 a 16 Tachwedd 2023.

Roedd hi wedi caffael ar eiddo troseddol, sef arian gwerth £33,269 rhwng 22 Mai 2020 a 19 Rhagfyr 2021.

Fe wnaeth Sara Davies, oedd yn gwisgo cardigan frown, siaced frown a throwsus gwyn, bledio’n euog i’r ddau gyhuddiad yn ei herbyn, a hynny yn y Gymraeg.

Bydd yn cael ei dedfrydu ar 14 Rhagfyr.

Enillodd Sara Davies Cân i Gymru yn 2024 gyda'r gân 'Ti', gan ennill gwobr o £5,000.

Diffynyddion eraill

Cyngor Sir Ceredigion oedd yn gyfrifol am yr erlyniad, gyda’r ymchwiliad wedi ei arwain gan y tîm safonau masnach.

Mae Thomas John Jones, 28 oed, o Brengwyn ger Llandysul, eisoes wedi pleidio'n euog i gyhuddiadau yn ymwneud â bridio cŵn yn anghyfreithlon a thwyll ym mis Rhagfyr 2025.

Mae Rebecca Ellen Bailey, 31 oed, o Langrannog, hefyd wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ddarparu gwybodaeth ffug am naw o gŵn bach Dachshund ym Milfeddygfa Castle House yng Nghastellnewydd Emlyn.

Mae Nerys Davies, 56 oed, o Benrhiwllan, wedi pledio'n euog i gyhuddiadau yn ymwneud â bod yn rhan o fusnes twyllodrus yn ymwneud â bridio cŵn yn anghyfreithlon.

Fe dderbyniodd tri unigolyn arall, sef Peter Jones, Cara Barrett a David Bethell, rybudd ffurfiol am eu rhan yn yr achos.

Yn ystod y gwradnawiad ddydd Iau clywodd y llys nad oedd Sara Davies bellach mewn perthynas gyda Thomas Jones.

Mewn gwrandawiad yr wythnos diwethaf, fe gafwyd tri o bobl yn ddieuog o fod yn rhan o dwyll yn ymwneud â bridio cŵn yn anghyfreithlon ar ôl i Gyngor Sir Ceredigion benderfynu peidio cyflwyno tystiolaeth yn eu herbyn.

Mae un o’r tri, Euros Davies, 61 oed o Gwmsychpant, yn gynghorydd annibynnol yng Ngheredigion ac yn cynrychioli ardal Llanwenog.

Roedd Euros Davies ynghyd â Rhydian Davies, 29 oed o Brengwyn ger Llandysul, a Delyth Mathias, 30 oed o Gaerdydd, wedi pledio yn ddieuog i’r cyhuddiadau yn eu herbyn mewn gwrandawiad blaenorol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.