Murlun enfawr i gofio Bonnie Tyler yn ei phentref genedigol

Jenks Art
Murlun Bonnie Tyler

Mae murlun enfawr wedi cael ei greu i gofio'r gantores Bonnie Tyler yn ei phentref genedigol, Sgiwen, ger Castell-nedd.

Cafodd y gantores fyd-enwog, oedd yn adnabyddus am ganeuon fel Total Eclipse of the Heart a Holding Out for a Hero, ei chofio drwy bortread lliwgar ar wal neuadd goffa'r pentref.

Bu farw Bonnie Tyler, a gafodd ei geni yn Gaynor Hopkins, mewn ysbyty ym Mhortiwgal ym mis Gorffennaf yn 75 oed.

Yr artist Stephen 'Jenks' Jenkins sydd wedi creu'r murlun, ar ôl cael ei gomisiynu gan Gyngor Tref Coedffranc i greu teyrnged barhaol i'r gantores.

Mae'r portread, a gymerodd bum niwrnod i'w gwblhau, yn dangos un hanner o wyneb y gantores mewn lliw a'r hanner arall mewn du a gwyn.

Dywedodd Stephen fod y lliwiau'n symbol o etifeddiaeth y gantores.

"Mae'r wyneb mewn dau liw yn symbol o furlun coffa mewn du a gwyn, a'r ffaith ei bod hi'n parhau i fyw drwy ei cherddoriaeth mewn lliw," meddai mewn neges ar Facebook.

"Mae'n anrhydedd ac yn fraint fawr cael fy ngwahodd i beintio murlun coffa i Bonnie Tyler yn ei phentref genedigol, Sgiwen, ger Abertawe.

"Diolch i Gyngor Tref Coedffranc a phawb arall oedd yn rhan o'r prosiect.

"Mae wedi cymryd pum niwrnod ac mae'n teimlo bod pob eiliad wedi bod yn werth chweil.

"Diolch i bawb sydd wedi dweud pethau cadarnhaol am y wal wrth iddi gael ei chreu. Mae hi wedi bod yn wal hyfryd i'w pheintio."

Mae'r murlun hefyd yn cynnwys coeden geirios yn ei blodau, parc Sgiwen yn y cefndir, a chalon goch gydag enw'r gantores arni.

Image
Murlun Bonnie Tyler 2

Nid dyma'r tro cyntaf i Stephen Jenkins greu murlun i gofio wyneb adnabyddus.

Ym mis Mehefin, fe wnaeth yr artist greu murlun ym Mhont-iets, Sir Gaerfyrddin, oedd yn cynnwys y cymeriad Dot Cotton o'r opera sebon EastEnders.

Roedd y portread yn rhan o furlun mawr yn dathlu hanes y pentref, ar ôl i blant ysgolion lleol helpu i ddewis y delweddau.

Cân olaf Bonnie Tyler

Daw'r deyrnged ddiweddaraf yr un wythnos a'r newyddion y bydd recordiad stiwdio olaf Bonnie Tyler gael ei ryddhau fel cân Nadolig ar 13 Tachwedd.

Cafodd y gân, Love, Light and Peace, ei hysgrifennu gan Chrissie Hammond a Terry Britten, a'i chynhyrchu gan Britten a David Mackay.

Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd gŵr y gantores, Robert Sullivan, ei fod yn gweld ei heisiau bob dydd.

"Mae wedi bod yn flwyddyn dorcalonnus, ac rwy'n gweld ei heisiau bob dydd," meddai.

"Wnaeth Gaynor erioed stopio gweithio. Roedd hi wrth ei bodd yn canu, roedd hi'n caru ei chefnogwyr, ac fe roddodd ei holl galon yn y caneuon hyn.

"Rwy'n gwybod y byddai hi eisiau i bobl eu clywed, ac rwy'n falch iawn o bopeth y mae hi wedi'i adael ar ei hôl."

Roedd Bonnie Tyler i fod i fynd ar daith gerddorol o amgylch Ewrop y mis hwn i ddathlu 50 mlynedd ers i’w chân Lost in France gyrraedd siartiau Prydain yn 1976.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.