Marwolaethau o wenwyno gan gyffuriau yng Nghymru ar eu huchaf erioed

Cocen

Mae nifer y marwolaethau o wenwyno gan gyffuriau yng Nghymru wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed, yn ôl ffigurau newydd.

Cafodd 422 o farwolaethau eu cofrestru yng Nghymru yn ystod 2025, o gymharu â 417 y flwyddyn flaenorol, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i'r nifer gyrraedd lefel uwch nag erioed o'r blaen.

Mae'r gyfradd marwolaethau yng Nghymru hefyd yn uwch nag yn Lloegr ac yn uwch nag yn unrhyw un o ranbarthau Lloegr, er bod y gyfradd gyffredinol ar draws y ddwy wlad wedi gostwng am y tro cyntaf ers 2012.

Yng Nghymru, roedd 141.3 o farwolaethau am bob miliwn o bobl, o gymharu ag 89.5 yn Lloegr.

Mewn ymateb i'r ffigurau, mae'r elusen Barod wedi galw am weithredu brys i atal rhagor o farwolaethau.

Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen: "Rydyn ni'n drist o glywed bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwenwyno gan gyffuriau wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed unwaith eto yng Nghymru.

"Mae cyfanswm o 422 o bobl wedi colli eu bywydau yn 2025, sy'n golygu bod mwy o deuluoedd yn profi galar aruthrol yn sgil colli eu hanwyliaid.

"Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i nifer y marwolaethau gyrraedd y lefelau uchaf erioed, ac rydyn ni'n mynnu nad yw'r duedd hon yn parhau."

Y sefyllfa ledled Cymru

Mae'r ffigurau diweddaraf hefyd yn dangos gwahaniaethau rhwng ardaloedd Cymru.

Yn Abertawe, cafodd 58 o farwolaethau o wenwyno gan gyffuriau eu cofrestru yn 2025, o gymharu â 52 y flwyddyn flaenorol.

Roedd cynnydd hefyd yn Rhondda Cynon Taf, o 36 i 43.

Yng Ngheredigion ac ar Ynys Môn, fe wnaeth nifer y marwolaethau a gafodd eu cofrestru ddyblu, o chwech i 12 ym mhob sir.

Ond nid cynnydd oedd y patrwm ym mhob ardal. Yn Sir Gaerfyrddin, fe wnaeth y nifer ostwng o 26 yn 2024 i 16 yn 2025.

Mae'r ffigurau'n ymwneud â marwolaethau a gafodd eu cofrestru yn ystod 2025, ac nid o reidrwydd â marwolaethau a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn honno.

Maen nhw hefyd yn cynnwys marwolaethau sy'n ymwneud â meddyginiaethau presgripsiwn a chyffuriau eraill, ac nid marwolaethau sy'n ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn unig.

Image
Heroin

Galw am gynllun newydd

Mae Barod, sy'n darparu gwasanaethau cymorth i bobl sydd â phroblemau cyffuriau ac alcohol, wedi beirniadu'r diffyg cynllun cenedlaethol newydd i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru.

Daeth cynllun cyflawni cenedlaethol Llywodraeth Cymru i ben yn 2022, ac yn ôl yr elusen, mae'r diffyg arweiniad ers hynny wedi effeithio ar y gwasanaethau sy'n darparu cymorth.

Dywedodd y llefarydd: "Mae hyn wedi arwain at ddiffyg arweinyddiaeth sydd yn aml wedi rhwystro cynnydd yn y maes, a hynny wrth i'r rhai sy'n darparu gwasanaethau hanfodol wynebu galw a phwysau aruthrol, gyda chyllidebau cyfyngedig sydd weithiau'n cael eu lleihau.

"Rydyn ni'n galw ar y Llywodraeth newydd i gyflwyno cynllun cenedlaethol newydd yn fuan, sy'n arloesol ac yn seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn parhau i leihau'r niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio sylweddau ac atal y cynnydd mewn marwolaethau y gellid eu hatal."

Fe wnaeth yr elusen ychwanegu fod defnyddio cyffuriau yn aml yn symptom o broblemau cymdeithasol a gwleidyddol ehangach.

Mae'r elusen hefyd wedi galw am ystyried newidiadau i ddeddfwriaeth cyffuriau er mwyn gallu cyflwyno dulliau newydd o leihau niwed.

Pryder am opioidau synthetig

Mewn ymateb i'r ffigurau, fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru rybuddio nad oes unrhyw arwydd bod y niwed sy'n cael ei achosi gan opioidau synthetig yng Nghymru yn lleihau.

Dywedodd llefarydd ar ran y corff: "Mae pob marwolaeth sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau yn drasiedi i'r rhai dan sylw, eu teuluoedd, eu hanwyliaid a'u cymunedau.

"Mae ffigurau heddiw yn dangos nad oes unrhyw arwydd bod y niwed y mae opioidau synthetig yn ei achosi yng Nghymru yn lleihau, ynghyd â sylweddau newydd sydd wedi'u hadnabod, fel analogau orffin, a sylweddau presennol fel bensodiasepinau."

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi tynnu sylw at y cysylltiad rhwng amddifadedd a marwolaethau sy'n ymwneud â chyffuriau.

"Mae effaith camddefnyddio cyffuriau i'w theimlo fwyaf yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, lle mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn llawer mwy cyffredin nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig," meddai'r llefarydd.

Mae'r corff yn dweud ei fod yn parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys gwasanaethau cyffuriau arbenigol, i fynd i'r afael â'r problemau sy'n cyfrannu at gamddefnyddio cyffuriau.

Cocên yn goddiweddyd heroin

Ar draws Cymru a Lloegr, mae'r ffigurau hefyd yn dangos bod cocên wedi goddiweddyd heroin neu forffin fel y sylwedd penodol sy'n cael ei nodi amlaf mewn marwolaethau o wenwyno gan gyffuriau, am y tro cyntaf ers i'r cofnodion ddechrau yn 1993.

Cafodd 1,233 o farwolaethau'n ymwneud â chocên eu cofrestru yn 2025, o gymharu â 1,210 yn ymwneud â heroin neu forffin.

Er hynny, roedd nifer y marwolaethau'n ymwneud â chocên wedi gostwng ychydig ers y flwyddyn flaenorol.

Yn gyffredinol, cafodd 5,519 o farwolaethau o wenwyno gan gyffuriau eu cofrestru ar draws Cymru a Lloegr, sef gostyngiad o 46 ers 2024.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y llywodraeth yn gweithio gyda phartneriaid i leihau'r niwed sy'n cael ei achosi gan gamddefnyddio sylweddau.

"Mae pob marwolaeth sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn drasiedi, ac rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid i leihau'r niwed sy'n cael ei achosi gan gamddefnyddio sylweddau, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, atal, triniaeth a chymorth i wella.

"Rhaid cofio bod unigolion y tu ôl i'r ffigurau hyn sydd wedi colli partneriaid, meibion, merched ac anwyliaid."

Dywedodd y llywodraeth ei bod yn buddsoddi mwy na £68 miliwn i wella gwasanaethau cymorth i bobl sy'n cael eu heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau.

"Rydyn ni'n buddsoddi mwy na £68 miliwn i wella gwasanaethau cymorth i'r rhai sy'n cael eu heffeithio, ac wedi cynnal y lefel hon o gyllid er gwaethaf y pwysau presennol ar gyllidebau.

"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda grwpiau lleihau niwed ar draws y sector i ddeall yn well yr heriau maen nhw'n eu hwynebu, a lleihau nifer y marwolaethau yn y dyfodol.

"Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod ein dull o ymdrin â defnyddio sylweddau yng Nghymru yn parhau i fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ymateb i'r sefyllfa."

Mae modd cael cymorth gyda phroblemau cyffuriau neu alcohol drwy gysylltu â llinell gymorth DAN 24/7 ar 0808 808 2234, neu drwy fynd i dan247.org.uk.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.