Gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn helpu i greu lens llygad mewn labordy am y tro cyntaf
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn rhan o ymchwil sydd wedi llwyddo i dyfu lens llygad ddynol mewn labordy am y tro cyntaf.
Fe allai'r datblygiad arwain at driniaethau newydd ar gyfer cyflyrau'r llygaid, gan gynnwys cataractau.
Mae'r ymchwil wedi cael ei arwain gan Brifysgol Anglia Ruskin yn Lloegr, gyda chymorth arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Osaka yn Japan.
Llwyddodd y gwyddonwyr i greu lensys bach sy'n debyg iawn i'r lens naturiol sydd yn y llygad dynol.
Fe wnaethon nhw ddefnyddio celloedd oedolion oedd wedi'u newid i fod yn debyg i fôn-gelloedd, cyn eu tyfu mewn ffordd oedd yn eu hannog i ffurfio lensys.
Yn ôl yr ymchwilwyr, mae'r lensys newydd yn cynnwys nifer o'r un nodweddion â lensys llygaid dynol.
Maen nhw'n gobeithio y bydd modd defnyddio'r lensys i brofi meddyginiaethau newydd ac i ddeall mwy am glefydau'r llygaid.
Gallai'r ymchwil hefyd helpu i ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer cataractau, sef cyflwr sy'n achosi i lens y llygad fynd yn gymylog, gan effeithio ar y golwg.
Ar hyn o bryd, mae pobl sydd â chataractau difrifol yn gallu cael llawdriniaeth i dynnu'r lens gymylog a rhoi lens artiffisial yn ei lle.
Ond mae'r gwyddonwyr yn gobeithio y gallai eu gwaith arwain at ffyrdd newydd o drin cyflyrau'r llygaid yn y dyfodol.
Dywedodd yr Athro Barbara Pierscionek o Brifysgol Anglia Ruskin fod y datblygiad yn gam mawr ymlaen.
"Mae'n anodd iawn cael gafael ar feinwe lens llygad dynol a'i hastudio wrth iddi ddatblygu," meddai.
"Rydym bellach wedi llwyddo i dyfu meinwe lens llygad dynol bach o fôn-gelloedd mewn labordy."
Ychwanegodd y gallai'r dechnoleg helpu gwyddonwyr i brofi meddyginiaethau newydd, deall clefydau sy'n effeithio ar y golwg a datblygu triniaethau yn y dyfodol.
Llun: Tim Mossholder/Unsplash
