Nid ‘brad’ yw cynnal adolygiad Covid yn hytrach nag ymchwiliad – Gweinidog Iechyd

Newyddion S4C
Mabon ap Gwynfor
Mae’r Gweinidog Iechyd, Mabon ap Gwynfor, wedi dweud nad "brad" yw cynnal adolygiad o'r ffordd y gwnaeth Cymru ymdrin â'r pandemig, yn hytrach na'r ymchwiliad cyhoeddus yr oedd ei blaid wedi cefnogi’n wreiddiol.
 
Yn 2024, fe alwodd Plaid Cymru am ymchwiliad. Ond cynnal adolygiad oedd addewid eu maniffesto a dyna gafodd ei gadarnhau ddydd Mawrth gan y Gweinidog dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Mabon ap Gwynfor ei fod yn derbyn bod teuluoedd yn teimlo ‘"brad" ond “nad dyna ydi o mewn gwirionedd”.

Dywedodd fod ymchwiliad Covid-19 ar draws y Deyrnas Gyfunol “wedi ystyried methiannau y llywodraeth yma ac wedi dysgu’r gwersi ac yn gofyn i ni osod mewn lle y trefniadaethau angenrheidiol i atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol". 

"Gwersi gwerthfawr a phwysig ond ma’n rhaid i ni weithredu nhw ar fyrder ac os oes ’na gaps felly yn y gwaith ma’r ymchwiliad Prydeinig yn gwneud, yna mae’n rhaid i ni wneud y gwaith yna’n sydyn," meddai.
 
'Poen a galar'

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad ddydd Mawrth, dywedodd grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru fod Llywodraeth Cymru “yn gwybod eu bod wedi ein bradychu.”

"Maen nhw wedi sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â ni ers chwe blynedd.
 
"Pam y byddai’n well ganddyn nhw ddewis adolygiad anstatudol a fydd yn costio miliynau ac yn parhau am flynyddoedd, pan rydym wedi datblygu ymchwiliad statudol gyda nhw yn costio dim ond £10m ac yn cael ei gwblhau o fewn 18 mis?"

Mae’r holl wrthbleidiau yn y Senedd hefyd wedi beirniadu penderfyniad Plaid Cymru. Bydd adolygiad Covid-19 yng Nghymru yn parhau tan fis Mawrth 2029. Fydd gan yr adolygiad ddim pwerau i orfodi pobol i roi tystiolaeth.

Mae Mabon ap Gwynfor yn dweud ei fod yn deall y boen mae’r teuluoedd yn mynd drwyddo a bod nifer yn dal i alaru.

“Mae’n rhaid cydnabod y boen a’r galar yna," meddai.
 
"Os y’n ni’n mynd i ffeindio atebion er mwyn peidio gadael i bobol ddiodde yn y dyfodol yna mae’n rhaid i ni gael adolygiad brys, sydyn sydd yn dysgu’r gwersi yna er mwyn caniatau i ni osod trefniadaethau llywodraethiant er mwyn atal problemau yn y dyfodol.
 
“Dwi’n mawr obeithio fydd y grwp penodol [Covid for Bereaved Families Justice Cymru] yma yn dod yn rhan o’r broses. Maen nhw wedi profi eu bod nhw’n werthfawr iawn yn eu dealltwriaeth nhw.”
 

'Lot yn fwy o amser'

Wrth gael ei holi pam y newid meddwl dros amser, dywedodd y Gweinidog Iechyd nad oedd ganddyn nhw hyder ar y pryd y byddai ymchwiliad y Deyrnas Gyfunol yn ystyried anghenion Cymru.

“Roedd ‘na bryder dwys y bydde Cymru yn cael ei anwybyddu," meddai. "Dwi’n falch nad ydi hynny bellach yn wir. 

"Mae ’na ystyriaeth drwyadl wedi bod o fethiannau Cymru a rhai o’r llwyddiannau bryd hynny. Mae ’na wersi pwysig i’w dysgu ac mae’n rhaid i ni weithredu ar y gwersi.”

Dywedod hefyd bod y Llywodraeth wedi gosod yn glir beth yw eu barn a hynny i gael “adolygiad a hynny er mwyn cael yn fuan".

“Os fasa ’na rywbeth mwy statudol, bydde hwnna yn cymryd lot yn fwy o amser i weithredu fydde’n colli’r amser sydd ganddo ni er mwyn dysgu’r gwersi yna mor fuan â phosib," meddai.

Mae modd gwylio’r cyfweliad yn llawn ar dudalen Youtube Newyddion S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.