Y Post Brenhinol yn cyhoeddi ei stampiau Nadolig newydd

Stampiau Nadolig y Post Brenhinol

Mae’r Post Brenhinol wedi datgelu dyluniad pump o’i stampiau Nadolig newydd sy’n adrodd stori’r Geni.

Mae eleni yn nodi 60 mlynedd ers cyhoeddi'r stamp Nadoligaidd cyntaf erioed, yn ôl ym 1966 ar 1 Rhagfyr.

Cafodd y gyfres newydd o stampiau ei chreu gan y dylunydd Gareth Howat a’r darlunydd Rebecca Sutherland, sydd wedi cydweithio i gynnwys sawl golygfa o’r stori.

Mae rhain yn cynnwys Mair a Joseff ar eu taith, y baban Iesu, angel, y bugeiliaid a’r Tri Gŵr Doeth.

Dywedodd David Gold, o’r Post Brenhinol bod rhywbeth “arbennig iawn” am dderbyn cerdyn neu lythyr drwy’r post adeg y Nadolig:

“Rydym yn gobeithio y bydd y stampiau Nadolig eleni’n ychwanegu ymdeimlad o hud yr ŵyl at y miliynau o gyfarchion fydd yn cael eu hanfon at deulu a ffrindiau ar draws y byd.” meddai.

Image
Stampiau Nadolig

Dywedodd Sutherland ei bod “wedi bod yn anrhydedd llwyr cael y cyfle i ddarlunio stampiau Nadolig y Post Brenhinol.

“Mae dylunio’r stampiau Nadolig wedi bod yn uchelgais imi erioed, felly mae cael bod yn rhan o’r hanes hir a nodedig yn teimlo’n wirioneddol fel uchafbwynt i’m gyrfa.

“Rwyf bob amser wedi caru stampiau ers pan oeddwn yn blentyn.

“Roeddwn i’n arfer eu casglu o amlenni, eu tynnu oddi ar bapurau yn ofalus, a’u trefnu’n setiau.

“Mae cael y cyfle i’w creu o’r newydd fy hun yn teimlo’n arbennig iawn.” meddai.

Cafodd y stampiau cyntaf erioed eu cyhoeddi yn dilyn cystadleuaeth gelf i blant gafodd ei chynnal gan Tony Benn, y Postfeistr Cyffredinol ar y pryd, ym mis Mai y flwyddyn honno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.