Cymraes yn ennill cyfres The Voice UK

Llun: ITV
Cate McHugh

Mae cantores o Fro Morgannwg, a ddechreuodd ei gyrfa yn canu ar strydoedd Caerdydd yn ei harddegau, wedi ennill cystadleuaeth The Voice UK.

Cafodd Cate McHugh, 31 oed, o Lanilltud Fawr, ei choroni'n enillydd y rhaglen ar ITV nos Sadwrn, gan ennill gwobr ariannol o £50,000 a chytundeb recordio.

Roedd y gantores, sydd â chyflwr dirywiol ar ei golwg ac sydd wedi'i chofrestru'n ddall, mewn sioc wrth glywed ei henw'n cael ei gyhoeddi fel yr enillydd.

Pan ofynnwyd iddi sut roedd hi'n teimlo ar ôl ennill, ei hymateb oedd: "Fe wnes i ennill!"

Roedd ei hyfforddwr, Syr Tom Jones, yno i'w llongyfarch a rhoi cwtsh iddi wrth iddi ddathlu ei buddugoliaeth.

Dyma oedd ymddangosiad olaf y canwr o Bontypridd ar y rhaglen, ar ôl iddo gyhoeddi'n flaenorol ei fod wedi cael ei ddiswyddo o'i rôl fel hyfforddwr.

Wrth siarad ar ôl y rhaglen, dywedodd Cate ei bod hi'n dal i geisio dod i delerau â'r ffaith ei bod wedi ennill.

"Rydw i wedi ennill The Voice! Rydw i mewn sioc lwyr a heb gael cyfle i brosesu'r wybodaeth eto," meddai.

Fel rhan o'i gwobr, mae Cate wedi ennill £50,000 a chytundeb recordio, ac mae hi eisoes wedi rhyddhau ei sengl gyntaf.

Fersiwn o gân enwog The Beatles, Blackbird, yw'r sengl.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn ei buddugoliaeth, diolchodd Cate i bawb oedd wedi ei chefnogi drwy gydol y gystadleuaeth.

"O waelod calon, rydw i eisiau dweud DIOLCH am ddilyn fy nhaith ac am ddod yn rhan o fy myd!

"Dyma pryd mae pethau'n mynd i ddechrau bod yn HWYL GO IAWN!" meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.