Yr athletwraig Ciara Mageean o'r Iwerddon wedi marw yn 34 oed
Mae teyrngedau wedi'u rhoi i'r i'r athletwriag Olympaidd Ciara Mageean, a fu farw yn 34 oed ar ôl dioddef o ganser.
Bu farw Mageean, o Portaferry yng Ngogledd Iwerddon, oedd yn gyn-bencampwr Ewropeaidd, fore dydd Sul meddai ei theulu.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei theulu: "Merch, chwaer, gwraig, ffrind ac ysbrydoliaeth annwyl i gynifer, bydd colled fawr ar ei hôl."
Roedd Mageean yn un o'r athletwyr mwyaf proffil uchel yn Iwerddon, gan arbenigo yn y 1,500m.
Roedd wedi cynrychioli Iwerddon yng Ngemau Olympaidd Rio 2016 a Gemau Olympaidd Tokyo 2020, yn ogystal â dal llu o recordiau Gwyddelig.
Aeth ymlaen i ddod yn bencampwr Ewrop pan gipiodd aur ym mhencampwriaethau 2024 yn Rhufain.
Nid oedd Mageean yn gallu cystadlu yng Ngemau Olympaidd 2024 oherwydd anaf.
Y flwyddyn ganlynol, cyhoeddodd Mageean ei bod wedi cael diagnosis o ganser y coluddyn.
Fe briododd ei phartner Thomas Moran ym mis Hydref ychydig wythnosau cyn ei marwolaeth.
Dywedodd y Taoiseach Micheál Martin ei fod yn drist iawn am ei marwolaeth. “Mae fy nghydymdeimlad diffuant yn mynd at ei gŵr Thomas, ei holl deulu a'i ffrindiau."
Disgrifiodd y Tánaiste Simon Harris y newyddion fel un torcalonnus.
“Roedd hi'n bencampwr Ewropeaidd, yn Olympiad ddwywaith, yn athletwr balch o'r Iwerddon ac yn berson eithriadol.”
Ychwanegodd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Michelle O’Neill, fod Mageean wedi dangos “talent, penderfyniad ac ymroddiad eithriadol”.
“Daeth cyflawniadau Ciara mewn athletau â balchder aruthrol i’w chymuned leol ac i bobl ledled Iwerddon,"meddai.
“Fodd bynnag, y tu hwnt i’r medalau, y cofnodion a’r anrhydeddau chwaraeon, bydd Ciara yn cael ei chofio am ei chynhesrwydd, ei dewrder a’i chryfder cymeriad aruthrol.