'Cynrychioli'r Gymraeg': Balchder wrth i Pride agor yn y West End
'Cynrychioli'r Gymraeg': Balchder wrth i Pride agor yn y West End
Bydd y Gymraeg i'w chlywed ar lwyfan yn y West End o 12 Tachwedd, wrth i'r sioe gerdd Pride agor yn y Bridge Theatre yn Llundain.
Mae'r cynhyrchiad, sy'n adrodd hanes cyfeillgarwch annisgwyl rhwng glowyr de Cymru a grŵp o lesbiaid a dynion hoyw yn ystod streic y glowyr, yn symud i'r theatr ar ôl cael ei berfformio yng Nghaerdydd ac yn y National Theatre yn Llundain.
Mae Mared Williams yn chwarae rhan Margaret Donovan, gwraig Dai Donovan, oedd yn llefarydd ar ran y glowyr.
"Dwi'n teimlo mor falch bod fi'n cael cynrychioli'r Gymraeg ar lwyfan cenedlaethol, law yn llaw efo stori cwiar hefyd," meddai.
"'Dan ni'n byw ein bywydau ni'n ddwyieithog. Felly mae cael hwnna'n rhan naturiol iawn o'r sioe a chael canu yn Gymraeg, mae o'n cynrychioli nhw'n awthentig, dwi'n meddwl."
Mae Gillian Elisa yn chwarae rhan Gwen, un o ferched y gymuned lofaol sy'n croesawu aelodau LGSM i'r pentref, ac mewn un olygfa mae ei chymeriad yn siarad â Gethin, cymeriad hoyw sy'n cael ei chwarae gan yr actor o Gymru, Chris Jenkins.
Dywedodd Gillian fod yr awdur Stephen Beresford wedi gofyn iddi gyfieithu brawddeg i'r Gymraeg ar gyfer yr olygfa:
"O, cariad bach, dere di nôl pryd ti moyn. Bydd wastad croeso cynnes i ti. Bob tro," meddai.
Yn ôl Gillian, mae'r geiriau'n cael effaith emosiynol ar y gynulleidfa, gan ganmol perfformiad Chris Jenkins.
Mae Pride yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn yn ystod streic y glowyr ym 1984, pan sefydlodd grŵp o lesbiaid a dynion hoyw yn Llundain Lesbians and Gays Support the Miners (LGSM).
Dechreuodd y grŵp godi arian i gefnogi teuluoedd y glowyr, gan feithrin perthynas agos â chymunedau Cwm Dulais yn ne Cymru.
Er gwaethaf y gwahaniaethau rhyngddyn nhw, ffurfiodd y ddwy gymuned gyfeillgarwch sy'n parhau hyd heddiw.
Cafodd y stori ei hadrodd yn y ffilm Pride yn 2014, cyn cael ei throi'n sioe gerdd.
Roedd Siân James, cyn-AS Llafur dros Ddwyrain Abertawe, ymhlith y bobl oedd yn rhan o'r digwyddiadau a ysbrydolodd y stori.
Mae ei chymeriad yn cael ei chwarae gan Sarah Pugh yn y sioe gerdd, tra bod Jessica Gunning wedi'i phortreadu yn y ffilm.
Wrth siarad ar raglen Taith Bywyd ar S4C yn 2024, dywedodd Siân:
"Pan chi o dan ymosodiad, chi'n edrych am bobl eraill sydd o dan ymosodiad a chi'n dysgu o'r grwpiau yna beth mae bywyd wedi bod fel, a shwt maen nhw wedi gwthio nôl a delio gyda annhegwch."
Ychwanegodd: "Beth oedd y tebygrwydd rhyngom ni i gyd? O'n ni i gyd yn casáu Margaret Thatcher. Roedd hwnna'n ddigon."
'Fwy pwysig nag erioed'
Fel rhan o'r paratoadau ar gyfer y sioe gerdd, cafodd Mared Williams gyfle i ymweld ag Ystradgynlais a Neuadd y Glowyr yn Onllwyn.
"'Dan ni wedi cael cyfarfod y bobl go iawn, so dwi wedi cael cyfarfod Margaret, ac roedd hynna'n brofiad anhygoel," meddai.
"Be nath daro fi oedd pa mor anodd oedd y cyfnod yna i bobl.
"Ond hefyd, dwi'n meddwl fel 'dan ni'n gweld efo'r sioe, gymaint o lawenydd nath y bobl yma allu dod â i'w bywydau er bod nhw'n mynd trwy rywbeth mor anodd."
Wrth drafod perthnasedd y stori heddiw, dywedodd Mared:
"Swn i'n deud bod o'n fwy pwysig nag erioed. Dwi'n meddwl mae 'na ddywediad yn Saesneg, 'Prejudice doesn't survive proximity'.
"Mae'n mor bwysig dysgu bod yn empathetic a gwrando ar bobl o gymunedau gwahanol.
"Fel 'dan ni'n gweld efo'r bobl yma, maen nhw'n ffrindiau hyd heddiw ac mae'r cynghrair annisgwyl 'ma sydd wedi ffurfio yn un hollbwysig."
Mae Carl Spencer, sy'n chwarae rhan Reggie, yn dweud nad oedd yn gyfarwydd â hanes LGSM cyn ymuno â'r cynhyrchiad.
"Roeddwn i wedi fy nghyffwrdd gymaint gan y ffordd y daeth y grŵp hwn o ymgyrchwyr at ei gilydd i gefnogi pobl a fyddai fel arfer wedi eu gwrthod," meddai.
"Fe wnaethon nhw hynny gyda chymaint o ddewrder a hyder, a heb ymddiheuro am yr hyn oedden nhw'n ei wneud."
Y cyfweliad yn llawn
Mae Gillian Elisa wedi ymddangos mewn cynyrchiadau fel Billy Elliot ac Under Milk Wood, ond mae'n disgrifio Pride fel profiad unigryw.
"Fi'n ffili credu bod fi dal yma, i fod yn onest. Mae e'n siwd gynhyrchiad gwych i fod ynddo.
"Dw i jyst yn prowd iawn bod fi'n rhan o fe. A dw i erioed wedi teimlo mor... ach, sai'n gwybod. Mae'r teimlad, allu di ddim disgrifio fe."
Mae'r sioe gerdd wedi'i chyfarwyddo gan Matthew Warchus, a gyfarwyddodd y ffilm wreiddiol, gyda'r sgript a geiriau'r caneuon gan Stephen Beresford.
Bydd Pride yn agor yn y Bridge Theatre ar 12 Tachwedd, gyda pherfformiadau wedi'u trefnu tan 8 Mai 2027.