Clwb Rygbi Caernarfon yn ymddeol crys rhif pump am weddill y tymor er cof am chwaraewr ifanc

Jack Cameron.jpeg

Mae Clwb Rygbi Caernarfon wedi ymddeol crys rhif pump ar gyfer gweddill y tymor er cof am chwaraewr ifanc a fu farw.

Bu farw Jack Cameron Wynne Davies, 24 oed, a oedd yn chwarae i Gaernarfon a Rygbi Gogledd Cymru, yn gynharach y mis hwn.

Roedd y dyn ifanc o Lanfairpwll ar Ynys Môn yn chwaraewr rygbi talentog ac yn athro yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy.

Mewn cyhoeddiad nos Iau, dywedodd Clwb Rygbi Caernarfon: "Fel teyrnged i Jack, byddwn yn ymddeol crys rhif pump y tîm cyntaf ar gyfer gweddill y tymor.

"Roedd yn bleser gwylio Jack yn chwarae yn y rhif, a teimlwn fel tîm bod y dewis yma yn destament i’w gof."

Cafodd sawl teyrnged ei chyhoeddi i Jack yn dilyn ei farwolaeth.

Mewn teyrnged ar y cyd, dywedodd Clwb Rygbi Caernarfon a Rygbi Gogledd Cymru: "Gyda thristwch mawr y mae Clwb Rygbi Caernarfon ac RGC yn cyhoeddi marwolaeth un o'n chwaraewyr, Jack Cameron Wynne Davies yn 24 oed yn unig.

"Ar ôl ymuno â Chlwb Rygbi Caernarfon yn 12 oed fel athletwr addawol iawn, datblygodd mewn amrywiaeth o dimau a llwyddodd i fod yn rhan o lwybr RGC, cyn symud i lawr i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd i astudio Addysg Gorfforol a Chwaraeon am dair blynedd. Dychwelodd i CR Gaernarfon ag RGC, gan ailymuno â'r sgwadiau hŷn yn 2023."

Ychwanegodd y clybiau: "Roedd yn rhan allweddol o deulu RGC a CR Caernarfon ac mae ei farwolaeth yn golled ddinistriol i bawb sy'n gysylltiedig â'r ddau glwb.

"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwysaf gyda'i deulu, ei ffrindiau, ei gyd-chwaraewyr a phawb oedd yn ei adnabod yn ystod yr amser anodd hwn."

ImageImage removed.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth: “Newyddion mor drist. Mae’n meddyliau ni gyd heno efo teulu a ffrindiau Jack, holl ddisgyblion a staff Ysgol David Hughes, a’r gymuned rygbi yng ngogledd Cymru.

“Cwsg yn dawel, Jack.”

Image
Jack Cameron Wynne Davies
Llun: Clwb Rygbi Caernarfon

'Eu haddysgu, eu harwain a'u hysbrydoli'

Roedd Mr Davies yn gweithio fel athro yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy.

Dywedodd yr ysgol mewn teyrnged: "Mae hon yn golled enfawr i gymuned Ysgol David Hughes. Bu Jack yn llawer mwy nag aelod o staff; roedd yn ffrind, yn fentor, yn fodel rôl ac yn ffynhonnell gyson o gefnogaeth i gynifer. 

"Bydd ei garedigrwydd, ei ymroddiad, ei gynhesrwydd a'i ymrwymiad diwyro i les a llwyddiant ein dysgwyr yn aros yn y cof. "

Ychwanegodd yr ysgol: "Roedd Jack hefyd yn gyn-ddisgybl yn yr ysgol. Bu ar un adeg yn cerdded yr un coridorau ac yn eistedd yn yr un ystafelloedd dosbarth â'r bobl ifanc y daeth yn ddiweddarach i'w haddysgu, eu harwain a'u hysbrydoli. 

"Roedd ei daith o fod yn ddisgybl i fod yn aelod gwerthfawr o staff yn destun balchder mawr i'n cymuned ysgol gyfan, ac roedd ei gysylltiad â'r ysgol yn un dwfn a pharhaol."

'Wastad yn fodlon ei gymwynas'

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru mewn teyrnged: "Mae Undeb Rygbi Cymru yn hynod o drist o glywed am farwolaeth sydyn Jack Davies, chwaraewr RGC.

"Hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Jack, ei ffrindiau, ei gyd-chwaraewyr a phawb yn RGC yn ystod yr adeg hynod o anodd hon."
 
Mae clybiau rygbi Llangefni, Bethesda a Chasnewydd hefyd wedi rhannu teyrngedau, gan gynnig eu cydymdeimladau dwysaf i'w deulu a'i ffrindiau.
 
 
Image
Jack Cameron Wynne Davies 2
Llun: Clwb Rygbi Caernarfon
ImageImage removed.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.