Pêl-droed: Caernarfon yn anelu at gyrraedd y tri uchaf gyda buddugoliaeth nos Wener
Y Seintiau Newydd sy’n arwain y ffordd yn y Cymru Premier wedi’r 14 gêm agoriadol, ac mae’r pencampwyr chwe phwynt yn glir ar frig y tabl ar ôl 13 buddugoliaeth yn olynol.
Cei Connah sy’n cadw’r pwysau ar griw Croesoswallt gan i’r Nomadiaid ennill chwe gêm gynghrair o’r bron, a bydd tîm John Disney yn ceisio achosi sioc ar noson Calan Gaeaf pan fydd y ddau uchaf yn cyfarfod yn Neuadd y Parc.
Tua’r gwaelod bydd yna gemau allweddol yn cael eu cynnal nos Wener wrth i Rhydaman herio Hwlffordd, a’r Fflint yn croesawu Treffynnon mewn gêm ddarbi.
Airbus UK Brychdyn (7fed) v Caernarfon (4ydd) | Nos Wener – 19:45
Mae Airbus yn hedfan tuag at y Chwech Uchaf ar ar ôl sicrhau pedair buddugoliaeth yn eu pum gêm gynghrair ddiwethaf.
George Peers yw prif sgoriwr y gynghrair gyda 14 o goliau mewn 14 gêm, yn codi uwchben Zack Clarke ar ôl sgorio ddwywaith yn y fuddugoliaeth o 2-3 oddi cartref yn Cambrian nos Wener diwethaf.
Airbus yw’r unig dîm sydd heb gael gêm gyfartal y tymor yma, tra nad yw Caernarfon wedi colli dim un o’u gemau oddi cartref (ennill 5, cyfartal 2).
Dyw Airbus heb guro Caernarfon ers Chwefror 2009 pan oedd y rheolwr presennol, Mark Allen yn chwarae i’r clwb dan arweiniad Craig Harrison (Cfon 0-2 Air).
Ond ers hynny mae Caernarfon wedi ennill chwe gêm yn olynol yn erbyn Airbus yn cynnwys buddugoliaeth o 4-0 yn yr ornest ddiwethaf rhwng y timau ym mis Mawrth 2023 pan sgoriodd Lloyd Marsh-Hughes hatric i’r Cofis.
Record cynghrair diweddar:
Airbus UK: ͏✅❌✅✅✅
Caernarfon: ͏✅➖❌✅✅
Bae Colwyn (5ed) v Cambrian (9fed) | Nos Wener – 19:45
Roedd Bae Colwyn wedi ennill pob un o’u gemau cartref y tymor yma cyn eu gêm gyfartal yn erbyn Met Caerdydd nos Wener (Bae 2-2 Met).
Mae’r Gwylanod yn dal yn ddi-guro ar Ffordd Llanelian felly, a wedi colli un o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf yn unig (ennill 5, cyfartal 1).
Mae Cambrian wedi colli pedair o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf, ac wedi ildio naw o goliau yn eu dwy gêm ddiwethaf oddi cartref (Cfon 9-1 Cam, YSN 9-0 Cam).
Hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau glwb a bydd angen i Cambrian fod yn wyliadwrus o’r dynion mawr yng ngharfan Bae Colwyn gan bod 42% o goliau cynghrair y Gwylanod wedi dod o giciau gosod y tymor yma.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏✅✅❌✅➖
Cambrian: ͏❌✅❌❌❌
Llansawel (12fed) v Llandudno (10fed) | Nos Wener – 19:45
Gyda dim ond un buddugoliaeth yn eu 10 gêm gynghrair ddiwethaf, mae Llansawel yn parhau i fod yn y Chwech Isaf.
Ond eu gwrthwynebwyr, Llandudno, yw’r clwb sydd ar y rhediad gwaetha’n y gynghrair ar hyn o bryd ar ôl colli eu pum gêm gynghrair ddiwethaf.
Dyw Llandudno dim ond wedi ennill un o’u saith gêm oddi cartref y tymor hwn gan gipio dim ond tri o’r 21 pwynt posib.
Dim ond unwaith mae’r clybiau wedi cyfarfod yn y gorffennol gyda Llandudno’n ennill y frwydr honno o 2-3 ar yr Hen Heol yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru ym mis Rhagfyr 2018.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ͏➖➖✅❌❌
Llandudno: ͏❌❌❌❌❌
Rhydaman (14eg) v Hwlffordd (11eg) | Nos Wener – 19:45
Roedd hi’n chwalfa o 9-0 i dîm Wyn Thomas yn erbyn Y Seintiau Newydd nos Wener, wrth i rediad da Rhydaman ddod i ben ar ôl tair buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth.
Dyw Hwlffordd dim ond wedi ennill unwaith oddi cartref y tymor yma, ond fe ddaeth y fuddugoliaeth honno ar Barc Jenner nos Sadwrn diwethaf (Barr 1-3 Hwl).
Mae’r goliau wedi bod yn brin i’r ddau glwb (llai nac un gôl y gêm), ond mae Rhydaman wedi ildio dwywaith cymaint â Hwlffordd hyd yma.
Dyw Rhydaman erioed wedi curo Hwlffordd, gyda’r Adar Gleision yn ennill pob un o’r bedair gêm blaenorol rhwng y clybiau, yn cynnwys buddugoliaeth ar giciau o’r smotyn yn yr ornest ddiwethaf yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru 2024/25.
Record cynghrair diweddar:
Rhydaman: ͏❌❌✅✅❌
Hwlffordd: ͏❌❌❌❌✅
Y Barri (6ed) v Trefelin (15fed) | Nos Wener – 19:45
Gyda dim ond un buddugoliaeth yn eu chwe gêm gynghrair ddiwethaf mae’r Barri mewn perygl o lithro allan o’r Chwech Uchaf (cyfartal 1, colli 4).
Does neb wedi sgorio llai o goliau na Trefelin y tymor hwn (8 gôl mewn 14 gêm), ac mae’r newydd-ddyfodiaid yn dal yn safleoedd y cwymp ar ôl ennill dim ond unwaith hyd yma.
Chwe phwynt sydd gan Trefelin, ond mae pump o’r rheiny wedi dod mewn gemau oddi cartref, tra bo’r Barri heb ennill gêm gynghrair ar Barc Jenner ers saith wythnos (Barr 4-1 Lldo)
Mae’r Barri wedi ennill pob un o’u tair gêm flaenorol yn erbyn Trefelin, a Luke Cooper oedd yr arwr yn yr ornest ddiwethaf rhwng y clybiau ym mis Chwefror 2023, yn sgorio ddwywaith i’r Dreigiau yng Nghynghrair y De (Tfl 1-2 Barr).
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ͏❌❌✅❌❌
Trefelin: ͏➖❌❌✅❌
Y Fflint (13eg) v Treffynnon (16eg) | Nos Wener – 19:45
Mae’r Fflint wedi ennill tair o’u pedair gêm gynghrair ers i Danny Holmes gymryd yr awennau fis diwethaf, gan gadw llechen lân yn y dair fuddugoliaeth rheiny.
Ac mi fydd y Sidanwyr yn disgwyl triphwynt arall yn y gêm ddarbi nos Wener yn erbyn y clwb sydd ar waelod y tabl, gyda dim ond dau bwynt o’u 13 gêm agoriadol.
Mae Treffynnnon wedi colli pob un o’u chwe gêm oddi cartref y tymor yma, gan ildio 20 o goliau (3.3 gôl y gêm).
Ond dyw’r Fflint heb guro Treffynnon ers bron i 30 o flynyddoedd (Mawrth 1997), gyda Treffynnon yn fuddugol o 1-2 ar Gae y Castell yn yr ornest ddiwethaf yn ail rownd Cwpan Nathaniel MG y tymor diwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ͏❌✅✅❌✅
Treffynnon: ͏❌❌➖❌❌