Gostyngiad yn nifer yr ymgeiswyr i rai o brifysgolion mwyaf dethol y DU

Myfyrwyr yn graddio

Mae llai o ymgeiswyr wedi ceisio am le mewn rhai o brifysgolion a chyrsiau mwyaf dethol y DU eleni o gymharu â’r llynedd, yn ôl ffigurau newydd.

Roedd 39,020 o ymgeiswyr 18 oed o Brydain wedi gwneud cais erbyn dyddiad cau cynnar UCAS, y corff mynediad i brifysgolion, sef 4.9% yn llai nag ar yr un adeg yn 2025.

Roedd yn rhaid i ddarpar fyfyrwyr sydd eisiau mynd i brifysgolion Rhydychen neu Gaergrawnt, neu eisiau astudio meddygaeth, deintyddiaeth neu filfeddygaeth, ymgeisio erbyn 15 Hydref.

Dywedodd UCAS fod nifer yr ymgeiswyr o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig wedi cwympo yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Roedd cynnydd, ar y llaw arall, yn nifer yr ymgeiswyr 19 oed o Brydain i’r cyrsiau hyn, gyda nifer ohonyn nhw yn ailymgeisio.

Roedd cyfanswm o 76,600 o ymgeiswyr (gan gynnwys myfyrwyr tramor ac ymgeiswyr o bob oedran) wedi gwneud ceisiadau erbyn y dyddiad cau cynnar, 3.2% yn llai na’r llynedd.

Dywedodd Dr Jo Saxton, prif weithredwr UCAS: “Mae’r cwymp yn nifer y ceisiadau gan bobl 18 oed o’r DU yn sicr yn arwyddocaol am ei fod yn uwch na’r cwymp sylfaenol yn y boblogaeth.

“Dwi’n arbennig o bryderus am hynny o ystyried y cwymp cyfatebol yn nifer yr ymgeiswyr o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig.”

Ychwanegodd, er hynny, ei bod hi “dal yn gynnar” ac y gallai pethau newid yn ystod y flwyddyn.

Mae modd astudio meddygaeth mewn tair prifysgol yng Nghymru: Caerdydd, Abertawe a Bangor.

Yng Nghaerdydd mae’r unig ysgol ddeintyddiaeth yng Nghymru, tra bod modd astudio milfeddygaeth drwy Brifysgol Aberystwyth mewn gradd ar y cyd â’r Coleg Milfeddygol Brenhinol (RVC) yn Sir Hertford, Lloegr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.