Ceredigion: Tri yn ddieuog o dwyll wedi honiadau o fridio cŵn anghyfreithlon
Mae tri o bobl wedi eu cael yn ddieuog o fod yn rhan o dwyll yn ymwneud â bridio cŵn yn anghyfreithlon ar ôl i’r erlyniad benderfynu peidio cyflwyno tystiolaeth yn eu herbyn.
Mae un o’r tri, Euros Davies, 61 oed o Gwmsychpant, yn gynghorydd annibynnol yng Ngheredigion ac yn cynrychioli ardal Llanwenog.
Cyngor Sir Ceredigion oedd yn gyfrifol am yr erlyniad, gyda’r ymchwiliad wedi ei arwain gan y tîm safonau masnach.
Roedd Euros Davies ynghyd â Rhydian Davies, 29 oed o Brengwyn ger Llandysul, a Delyth Mathias, 30 oed o Gaerdydd, wedi pledio yn ddieuog i’r cyhuddiadau yn eu herbyn mewn gwrandawiad blaenorol.
Dywedodd Owen Edwards KC ar ran Cyngor Sir Ceredigion wrth y llys bod yr erlyniad wedi “ystyried yn ofalus” y dystiolaeth yn erbyn y tri, ond bod yr erlyniad wedi penderfynu peidio â chynnig unrhyw dystiolaeth yn erbyn y tri diffynydd. Fe gafwyd y tri felly yn ddieuog gan y Barnwr Huw Rees.
Doedd y Cynghorydd Davies ddim am wneud unrhyw sylw wrth adael y llys, ond roedd mam Delyth Mathias, Eryl, yn feirniadol iawn o’r penderfyniad i ddwyn achos yn erbyn ei merch a’r effaith arni hi a'r teulu.
Mewn datganiad, dywedodd y Cyngor bod yr awdurdod wedi "ystyried y cyngor cyfreithiol a gafwyd yn ofalus," wedi cynnal adolygiad pellach ac wedi penderfynu peidio â chynnig unrhyw dystiolaeth mewn perthynas â thri o’r diffynyddion.
Fe ychwanegodd y cyngor y bydd materion yn ymwneud â'r Cynghorydd Euros Davies yn cael eu cyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i’w hystyried.
Diffynyddion eraill
Fe blediodd Rebecca Ellen Bailey, 31 oed, o Langrannog, yn euog i gyhuddiad o ddarparu gwybodaeth ffug am naw o gŵn bach Daschund ym Milfeddygfa Castle House yng Nghastellnewydd Emlyn. Mae disgwyl iddi gael ei dedfrydu cyn y flwyddyn newydd.
Fe fydd cyn enillydd Cân i Gymru, Sara Pritchard Davies, 29 oed, yn sefyll ei phrawf yn Llys y Goron Abertawe ar y 9fed o Dachwedd. Mae hi wedi pledio yn ddieuog i gyhuddiad o dwyll yn ymwneud â bridio cŵn yn anghyfreithlon. Mae disgwyl i’r achos bara tua pedair wythnos.
Fe blediodd Thomas John Jones, 28 oed, o Brengwyn ger Llandysul, yn euog i gyhuddiadau yn ymwneud â bridio cŵn yn anghyfreithlon a thwyll ym mis Rhagfyr 2025.
Dywedodd y bargyfreithiwr Owen Edwards KC fod y busnes “gwerth tua £1m.”
Mae Nerys Davies, 56 oed o Benrhiwllan, hefyd wedi pledio yn euog i gyhuddiadau yn ymwneud â bod yn rhan o fusnes twyllodrus sef bridio cŵn yn anghyfreithlon.
Clywodd y llys heddiw ei bod hi wedi darparu 72 o gŵn i fusnes Jones.
Fe dderbyniodd tri unigolyn arall sef Peter Jones, Cara Barrett a David Bethell rybudd ffurfiol am eu rhan yn yr achos.