Clefyd y tafod glas wedi'i gadarnhau ar dros 500 o ffermydd yng Nghymru

Gwartheg a defaid

Mae clefyd y tafod glas wedi'i gadarnhau ar dros 500 o ffermydd yng Nghymru y tymor hwn, gyda Prif Swyddog Milfeddygol Cymru yn  rhybuddio y gallai'r clefyd gael effeithiau dinistriol ar dda byw yn y wlad y flwyddyn nesaf.

Mae Dr Richard Irvine yn annog ffermwyr i baratoi ar gyfer 2027 drwy drafod brechu eu da byw gyda'u milfeddygon ac archebu brechlynnau mewn da bryd.

Ar 11 Medi, roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau dros 100 o achosion o'r clefyd yng Nghymru, ond mae achosion bellach wedi'u cadarnhau ar fwy na 500 o ffermydd.

Dywedodd Dr Irvine fod nifer y ffermydd lle mae feirws y tafod glas, seroteip 3 (BTV-3), wedi'i gadarnhau yn dangos bod y clefyd yn parhau i fod yn bresennol dros ardal eang o Gymru a Phrydain.

"Rydyn ni wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol erbyn hyn, gan fod achosion o BTV-3 wedi'u cadarnhau ar fwy na 500 o ffermydd ledled Cymru yn ystod y tymor hwn," meddai.

"Brechu yw'r unig fesur hirdymor ymarferol i amddiffyn eich da byw rhag y tafod glas.

"Bydd y tafod glas yn goroesi dros y gaeaf, felly mae'n hanfodol ein bod ni'n barod i'r clefyd hwn ddychwelyd y flwyddyn nesaf."

Image
Dr Richard Irvine
Dr Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru,

Rhybuddiodd Dr Irvine y gallai Cymru wynebu effeithiau tebyg i'r rhai a welwyd yn ne-orllewin Lloegr eleni.

"Rydyn ni wedi gweld yr effeithiau dinistriol mewn ardaloedd fel de-orllewin Lloegr yr haf hwn, a gallai'r un peth ddigwydd yng Nghymru'r flwyddyn nesaf."

Brechu

Mae Dr Irvine yn annog ffermwyr i weithredu'n gynnar er mwyn diogelu eu hanifeiliaid a sicrhau bod brechlynnau ar gael pan fydd eu hangen.

"Dangosodd yr haf hwn y gall y galw am frechlyn gynyddu'n gyflym pan fydd y clefyd yn lledaenu. Os bydd ceidwaid yn aros tan y funud olaf, mae perygl na fydd brechlyn ar gael pan fydd ei angen fwyaf arnynt," meddai.

Mae hefyd yn annog ffermwyr i adnabod arwyddion y clefyd a gwirio statws anifeiliaid cyn dod â nhw i'w ffermydd, gan holi a ydyn nhw wedi cael eu brechu.

Diolchodd Dr Irvine i ffermwyr a milfeddygon ledled Cymru am roi gwybod am achosion o'r clefyd a brechu eu da byw hyd yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.