Caerdydd: Ymgynghoriad ar ganolfan ddata newydd yn dod i ben

Y Byd ar Bedwar
Llun: ITV Cymru
canolfan ddata Caerdydd

Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn ymwneud â chynlluniau am ganolfan ddata ar safle Cyngor Caerdydd yn dod i ben ddydd Mercher.

Byddai'r cynllun 58 erw ar safle maes parcio a theithio rhwng Llanrhymni a Phentwyn, sydd yn bennaf yn cael ei defnyddio i gludo pobl i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, pe bai'n cael ei ganiatáu.

Fe symudodd Mabli Llŷn i’r ardal ddwy flynedd yn ôl, ac mae hi’n un o gannoedd o bobl sydd wedi cyflwyno gwrthwynebiad ffurfiol i’r safle. 

“Ma na dipyn o bryderon ynglŷn a’r cynllun yma” meddai wrth Y Byd ar Bedwar. 

“Mae’r park and ride yn wasanaeth mae staff a cleifion yn eu ddefnyddio. So ie, fysa fo’n siom yn gweld hwn yn mynd.

“Dwi’n meddwl bod na le ar gyfer canolfannau data. ‘Da ni angen yr infrastructure ar gyfer AI, ond dwi’n meddwl bod angen bod yn ofalus lle ma rhein yn mynd.”

Image
Mae Mabli Llŷn wedi byw yn ardal Llanrhymni ers dwy flynedd. Llun: ITV Cymru
Mae Mabli Llŷn wedi byw yn ardal Llanrhymni ers dwy flynedd. Llun: ITV Cymru

Mae canolfannau data yn storio data ac yn rhedeg y gwasanaethau y mae pobl yn eu defnyddio bob dydd. 

Canolfannau data sy’n sicrhau bod modd ffrydio rhaglenni, defnyddio deallusrwydd artiffisial, ac anfon ebyst neu neges destun. 

Gyda thechnoleg yn datblygu, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi strategaeth ‘Ardaloedd Twf AI’ i ehangu canolfannau data yn gyflym i gyrraedd y galw. 

Gogledd Cymru a De Cymru yw dwy o’r pum ardal sydd yn wedi’u cyhoeddi fel rhan o’r strategaeth newydd. 

Yn ôl y cynlluniau, bydd angen 150 megawat o drydan o'r grid er mwyn pweru’r ganolfan ddata yn Llanrhymni. 

Ond, gan na fydd modd derbyn y pŵer yma'n syth, mae'r datblygwyr wedi cynnig defnyddio tyrbinau nwy i bweru'r ganolfan ddata yn y tymor byr, a generators diesel mewn unrhyw argyfwng.

Mae hwn yn bryder mawr i Mabli.

Dywedodd hi “bod ‘na effaith yn mynd i fod ar yr ardal. Effaith niweidiol efo ansawdd aer, sŵn, emissions nwyon tŷ gwydr…” 

“Ma wir yn ‘neud i fi feddwl, i bwy ma Cyngor Caerdydd yn gwasanaethu - os nad y bobl sy’n talu treth cyngor, mae o yn siomedig.”

Yn ôl Cyngor Caerdydd, nid oes modd gwneud sylw ar gais cynllunio byw, ond eu bod nhw’n ystyried ceisiadau yn unol â fframwaith cyfreithiol ac amgylcheddol.

Dywedodd llefarydd ar ran y datblygwyr, Curtis Hall Ltd, bod y cynlluniau wedi bod trwy asesiadau amgylcheddol a thechnegol manwl, ac y bydd y cyfle hwn yn denu buddsoddiad ac yn creu swyddi uchelgeisiol.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru am ddatblygu strategaeth ar gyfer canolfannau data, ac am rhoi diweddariad ar hyn cyn diwedd y flwyddyn.

Ond yn ôl Mabli, ma angen y strategaeth cyn gynted ag sy’n bosib.

“Dylsa nhw ddatblygu’r polisi ma ar frys achos ma’r canolfanna data yn popio fyny yn bobman a ma pobl yn dod i glywed amdanyn nhw’n rhy hwyr. Felly dw’i ddim yn credu dyle’r un cynllun barhau neu gael ei ganiatau nes bod y polisi yna yn ei lle.” 

Gwyliwch 'Y Byd ar Bedwar: Y Ganolfan Ddata Drws Nesa', ar YouTube, BBCiPlayer ac S4C Clic.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.