Rhyddhau dyn heb gamau pellach yn ei erbyn wedi marwolaeth dyn yn ardal Wrecsam

Rhos

Mae dyn o dde Lloegr gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn yn ardal Wrecsam yn gynharach eleni wedi ei ryddhau heb unrhyw gamau pellach yn ei erbyn.

Cafodd ymchwiliad ei lansio ar ôl i Linas Buta, 49 oed, farw o ganlyniad i anaf i'w ben mewn tŷ yn ardal Bryn Glas o Rosllannerchrugog ar ddydd Gwener, 27 Mawrth.

Cafodd dyn 40 oed o ardal Essex ei arestio ar ddydd Iau 23 Ebrill ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae bellach wedi cael ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad.

Mae adroddiad yn cael ei baratoi ac fe fydd yn cael ei anfon i'r crwner.

Mae teulu Mr Buta wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.