'Rhan o hanes ein pentref': Clwb rygbi'n Sir Gâr yn rhybuddio y gallai ddod i ben
Mae clwb rygbi yn Sir Gâr wedi rhybuddio y gallai orfod dod i ben wedi dros hanner canrif o fodolaeth o achos prinder chwaraewyr newydd.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd pwyllgor a chwaraewyr Clwb Rygbi Llanybydder "gyda thristwch mawr" eu bod yn wynebu dyfodol ansicr.
Dywedodd y datganiad fod y clwb wedi bod "yn rhan o galon ac enaid ein cymuned leol" ers 52 mlynedd.
"Mae cenedlaethau o chwaraewyr, teuluoedd, cefnogwyr a gwirfoddolwyr wedi croesi ein trothwy, gan greu cyfeillgarwch, atgofion ac ymdeimlad o berthyn sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r cae rygbi.
"Mae'n dorcalonnus meddwl y gallai ein clwb - gyda'i hanes balch a blynyddoedd lawer o ymroddiad - ddod i ben.
"Mae'r pwyllgor a'r chwaraewyr wedi'u chwalu'n llwyr gan y ffaith ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn. Nid penderfyniad yr ydym am ei wynebu yw hwn, ac mae'r syniad o golli rhywbeth sydd wedi golygu cymaint i gynifer o bobl yn anodd dros ben.
"Mae Clwb Rygbi Llanybydder yn fwy na thîm rygbi yn unig. Mae'n gymuned, yn deulu ac yn rhan o hanes ein pentref."
'Atgofion, cyfeillgarwch a thraddodiad'
Ychwanegodd y clwb eu bod yn ymladd i "ddiogelu 52 mlynedd o atgofion, cyfeillgarwch, traddodiad ac ysbryd cymunedol ar gyfer y genhedlaeth nesaf."
Mae'r aelodau wedi apelio ar y gymuned leol, cyn-chwaraewyr, cyn-gefnogwyr, a chlybiau rygbi cyfagos am gymorth.
"Os oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau, neu os gallwch gynnig unrhyw gymorth a allai sicrhau dyfodol i'n clwb, byddem yn ddiolchgar iawn am glywed gennych."
Y gobaith yw y bydd bobl yn cynnig help "i archwilio pob posibilrwydd cyn y bydd yn rhaid i ni ystyried cau drysau clwb sydd wedi bodoli ers 52 mlynedd."
"Dychmygwch y tristwch o weld clwb rygbi pentref arall yn diflannu. Unwaith y bydd clwb wedi mynd, mae’n anodd dros ben adfer ei hanes, ei draddodiadau a’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig i genedlaethau’r dyfodol."
"Helpwch ni, os gwelwch yn dda, i roi cyfle i Glwb Rygbi Llanybydder barhau i frwydro. Nid ydym yn barod i ffarwelio, a gobeithiwn, gyda chefnogaeth ein cymuned a chlybiau rygbi eraill, y gallwn ddod o hyd i ffordd ymlaen o hyd. O waelod ein calonnau, diolch i bawb sydd wedi cefnogi Clwb Rygbi Llanybydder dros y 52 mlynedd diwethaf.
"Mae eich cefnogaeth wedi helpu i wneud y clwb yr hyn ydyw heddiw, a gobeithiwn yn ddiffuant nad dyma ddiwedd ein stori."