RAF Fairford: Cyhuddo dau ddyn o droseddau diogelwch gwladol
Mae dau ddyn wedi’u cyhuddo o droseddau diogelwch gwladol fel rhan o ymchwiliad i gynllwyn terfysgol honedig ger RAF Fairford.
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod Mohmed Abdulkarim, 24, a Nouman Essghir, 24, ill dau wedi’u cyhuddo o dan Ddeddf Diogelwch Gwladol 2023.
Mae Abdulkarim, o Lundain, wedi’i gyhuddo o gynorthwyo gwasanaeth cudd-wybodaeth tramor, tra bod Essghir, sydd hefyd o Lundain, wedi’i gyhuddo o fynd i le gwaharddedig at ddiben sy’n niweidiol i’r DU.
Bydd y ddau yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mawrth.
Mae pum dyn arall a gafodd eu harestio yn ystod yr ymchwiliad yn parhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Roedd yr heddlu gwrthderfysgaeth wedi dweud yn flaenorol ei bod yn “hynod debygol bod gwladwriaeth Iran yn gysylltiedig” â’r digwyddiad ger y ganolfan yn Swydd Gaerloyw ar 27 Medi.
Dywedodd Frank Ferguson, Prif Erlynydd y Goron yn Adran Troseddau Arbennig a Gwrthderfysgaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu erlyn dau unigolyn am droseddau o dan y Ddeddf Diogelwch Gwladol ar ôl ymchwiliad gan yr heddlu gwrthderfysgaeth i ddigwyddiad yn ymwneud ag RAF Fairford.
“Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid wrth i’r ymchwiliad cymhleth hwn barhau.”
