Syr Tom Jones yn gohirio dau gyngerdd yn America oherwydd y ffliw

Llun: Tim Tyson Short
Tom Jones

Mae Syr Tom Jones wedi gohirio dau gyngerdd yn yr Unol Daleithiau oherwydd ei fod yn dioddef o'r ffliw, yn dilyn cyngor gan ei feddyg.

Roedd disgwyl i'r canwr 86 oed o Bontypridd berfformio yn Los Angeles nos Lun ac yn San Diego nos Fawrth, ond mae'r ddau gyngerdd bellach wedi cael eu haildrefnu.

Mewn datganiad ar ei gyfrif Instagram, dywedodd Syr Tom ei fod wedi mynd yn sâl yn annisgwyl ar ôl perfformio ar draws yr Unol Daleithiau dros yr wythnosau diwethaf.

"Rydw i wedi cael amser gwych dros yr wythnosau diwethaf, gan gynnal 20 o gyngherddau a chanu i gynulleidfaoedd gwych ar draws yr Unol Daleithiau, ond yn annisgwyl rydw i wedi cael ffliw gwael," meddai.

"Yn dilyn cyngor meddyg, yn anffodus mae'n rhaid i mi aildrefnu'r cyngerdd yn Los Angeles heno a'r cyngerdd yn San Diego yfory."

Bydd y cyngerdd yn San Diego bellach yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 3 Tachwedd, gyda'r perfformiad yn Los Angeles wedi'i aildrefnu ar gyfer dydd Mercher 4 Tachwedd.

Ymddiheurodd Syr Tom i'w gefnogwyr am unrhyw anghyfleustra, gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at eu gweld yn fuan.

Bydd tocynnau ar gyfer y dyddiadau gwreiddiol yn parhau'n ddilys, a bydd modd i'r rhai sy'n methu mynychu'r cyngherddau ar y dyddiadau newydd gael ad-daliad llawn drwy gysylltu â'r cwmni y gwnaethon nhw brynu eu tocynnau ganddo.

Mae Syr Tom ar hyn o bryd ar ran Americanaidd ei daith fyd-eang Come Gather Round, a ddechreuodd gyda pherfformiadau ym Mhrydain ac Ewrop dros yr haf.

Ym mis Gorffennaf 2025, bu'n rhaid iddo hefyd ohirio cyngerdd yn Bremen yn yr Almaen oherwydd haint ar y system anadlu.

Mae'r canwr o Gymru wedi bod yn perfformio ers dros 6 degawd ac mae'n adnabyddus am ganeuon fel Delilah, It's Not Unusual a What's New Pussycat?

Ddydd Mercher, bydd hi'n 60 mlynedd ers rhyddhau ei fersiwn o Green, Green Grass of Home, a gyrhaeddodd frig siart senglau Prydain yn 1966.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.