Perfformiad adrannau brys Cymru ar ei waethaf ers dechrau cadw cofnodion

Newyddion S4C 23/09/2021

Perfformiad adrannau brys Cymru ar ei waethaf ers dechrau cadw cofnodion

Mae'r ffigurau perfformiad gwaethaf erioed wedi cael eu cofnodi gan adrannau brys mewn ysbytai yng Nghymru. 

Daw'r cyhoeddiad wrth i'r Gwasanaeth Iechyd wynebu pwysau aruthrol dros y misoedd diwethaf. 

Gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans yn profi eu mis Awst prysuraf ar gofnod, roedd y nifer o alwadau coch gafodd ymateb o fewn 8 munud yn is na lefelau cyn-pandemig, ac roeddent yn parhau i 13eg mis yn olynnol. 

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn buddsoddi mwy o arian i gefnogi gwasanaethau brys gan ychwanegu eu bod yn annog pobl i ystyried yr opsiynau gorau ar gyfer eu gofal.

Mae'r ffigyrau yn dangos fod adrannau brys mewn ysbytai wedi cofnodi eu ffigyrau perfformio gwaethaf erioed, gyda 68.7% o gleifion yn treulio llai na pedair awr mewn adrannau ym mis Awst.  

Mae hyn 11.3% yn is na'r un mis yn 2020, ac 38% yn is na'r targed o 95%. 

Yn ystod y bum mlynedd cyn y pandemig, mae’r ganran o bobl a gafodd eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o adran frys wedi aros o gwmpas 80%, cyn cyrraedd yr isafbwynt baenorol ym mis Rhagfyr 2020.

Roedd amseroedd aros ar gyfer triniaethau gofal oedd wedi eu trefnu yn parhau i dyfu, gyda’r nifer uchaf erioed o gleifion yn aros am yn hirach na 36 wythnos.

Er i amseroedd aros cyfartalog barhau’n uwch na’r lefelau cyn y pandemig, mae’r ffigyrau’n awgrymu eu bod yn gostwng.

Un o'r bron i 650,000 sydd yn aros am driniaeth yw Steve Dimmick, sydd yn 46 oed ag angen clun newydd. Dywedodd Mr Dimmick wrth raglen Newyddion S4C: 

"Yn anffodus mae ddim yn edrych yn grêt mae clun dde fi mewn llanast, ond yn anffodus mae nhw ddim fedru gwthio fi fyny y rhestr. Y syniad o aros am blwyddyn a hanner mwy...

"Dwi ddim yn cysgu nawr, dim fedru neud unrhyw beth oedd i neud, mae gen i tri o blant, hyfforddi fy mab gyda pêl-droed ma' hwnna'n amhosib, jyst mynd i unrhyw le.

"Da ni yn parc pum munud o fy tŷ a dwi'n gyrru yma. Mae'n 'ridiculous’. So ie 'fast forward' mynd ymlaen i dwy flynedd ymlaen ddim fedru credu dwi fedru delio gyda o. Ond wrth gwrs, mae pobl mewn sefyllfa gwael na fi, ond mae jyst rili anodd i credu mae 'na miloedd, cannoedd o miloedd o pobl yn teimlo fel dwi yn wan."

Ychwanegodd Mr Dimmick: "Dwi ddim eisiau bod dros ben llestri gyda fo, ond mae yn effeithio dy iechyd feddwl hefyd, achos dwi yn teimlo isel drosodd, a mae yn poenus, cerdded yma, 'embarrassing' pan dwi'n cwrdd gyda ffrindiau a ma' nhw fel 'Be sy'n digwydd?' 'Pam ti'n cerdded fel hyn?' A dwi'n 46 a dwi'n cerdded fel fy nhaid. Ma' hwn nawr yn effeithio fy emosiwns hefyd."

'Gofyniad anodd dros ben'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wrth raglen Newyddion S4C: "Be' sy'n poeni fi mwy na dim yw'r bobl sy'n diodde' mewn poen sydd wedi eisoes bod ar y rhestrau aros 'ma am gymaint o amser.

"Ac ar ben hynny dwi'n poeni am y bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaethau iechyd ni sydd wedi bod yn gweithio yn ddi-baid am 18 mis ag sydd o dan straen.

"Ac felly mae gofyn iddyn nhw barhau o dan yr amgylchiadau hyn yn ofyniad anodd dros ben".

'Amseroedd aros annerbyniol'

Dywedodd Russell George AS, Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig: "Rydym yn gweld triniaeth frys a dewisol tu mewn i'r GIG yn cyrraedd ei eithaf ar hyn o bryd.  Mae hyn yn arwain at amseroedd aros annerbyniol ar gyfer cleifion a blinder annioddefol i staff sy'n gweithio'n galed.

"Dyna pam roeddwn ni'n siomedig i weld Llafur yn gwrthod argyfwng ambiwlans ddoe, yn bryderus nad ydynt wedi rhyddhau cynllun gaeaf ar gyfer y GIG a mabwysiadu'r argymhellion rydym wedi eu hamlinellu, a'n ofni y gallai'r amseroedd aros hir hyn waethygu eto fyth".

'Lefel uchel o ofal'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Er gwaethaf pwysau cynyddol yn ystod lefelau digynsail o alw a gweithgarwch, mae ein staff GIG gweithgar yn parhau i ddarparu lefelau uchel o ofal wrth drin cleifion yn ystod y pandemig.

"Mae'r pwysau ar ein gwasanaethau brys yn parhau i fod yn uchel. Roedd nifer y derbyniadau i holl adrannau brys GIG Cymru a nifer cyfartalog y derbyniadau i adrannau achosion brys y dydd ym mis Awst 2021 ychydig yn is na'r mis blaenorol, ond roeddent yn dal yn uwch na'r llynedd.

"Rydym wedi sicrhau bod £25m o gyllid ar gael i wella'r modd y darperir gwasanaethau gofal brys a gofal argyfwng". 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.