Apêl wedi marwolaeth dyn 43 oed mewn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili
Mae'r heddlu yn apelio am dystion ar ôl i ddyn 43 oed farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili nos Sadwrn.
Cafodd swyddogion Heddlu Gwent eu galw i ffordd yr A472 yn Hafod-yr-Ynys - rhwng Pont-y-pŵl a Chrymlyn - toc wedi 18.15 ddydd Sadwrn 24 Hydref wedi adroddiad am wrthdrawiad yno.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys dau gar du: Audi A5 a Volkswagen ID5.
Bu farw teithiwr yr Audi A5, dyn 43 oed, yn y fan a’r lle.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd yr heddlu fod y teulu wedi gofyn am breifatrwydd yn dilyn ei farwolaeth.
Mae'r llu bellach yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad.
"Mae swyddogion sy’n ymchwilio i’r gwrthdrawiad yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y naill neu’r llall o’r ceir yn teithio yn yr ardal cyn y gwrthdrawiad," meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent.
"Mae hynny’n cynnwys modurwyr, cerddwyr a beicwyr, neu unrhyw un a allai fod â lluniau perthnasol o gamera dangosfwrdd, CCTV neu ffôn symudol."
Ychwanegodd y llefarydd: "Gofynnwn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo’r ymchwiliad gysylltu â ni drwy ffonio 101 neu drwy wefan Heddlu Gwent, gan ddyfynnu cyfeirnod y cofnod 2600348750."
Llun: Google Maps