Ffrainc: Bron i 1,000 wedi'u harestio wrth i gannoedd ar filoedd brotestio

Protestiadau yn Perpignan
Protestiadau yn Perpignan

Cafodd bron i 1,000 o0 bobl eu harestio wrth i gannoedd ar filoedd o bobol ymuno â diwrnod arall o brotestiadau yn Ffrainc ddydd Sadwrn.  

Roedd peth gwrthdaro yn hwyr nos Sadwrn, yn ôl swyddogion.   

Wedi diwrnod o brotestiadau heddychlon ar y cyfan, fe daniodd yr heddlu nwy dagrau a dŵr er mwyn gwasgaru protestwyr mewn sawl dinas, yn cynnwys y brifddinas Paris. 

Roedd difrod i siopau yn Bordeaux, a chafodd rhwystrau a oedd wedi eu gosod i reoli'r dorf ym Marseille eu rhoi ar dân.

Ond hyd yn hyn, mae'r awdurdodau wedi llwyddo i atal anhrefn tebyg i'r un y penwythnos diwethaf.  

Yn ôl gweinyddiaeth fewnol Ffrainc, roedd tua 410,000 o bobl yn protestio ddydd Sadwrn, tra bo'r undebau yn dweud mai 800,000 oedd y ffigwr.

Dechreuodd y protestiadau gan fyfyrwyr ym Mharis y mis diwethaf oedd yn anfodlon â chyflwr ysgolion. 

Bellach mae bobl yn protestio yn erbyn costau byw hefyd.  

Dywedodd gweinidog mewnol Ffrainc, Laurent Nunez, fod hyd at 70,000 o blismyn wedi’u hanfon i ddelio â phrotestiadau ledled Ffrainc ddydd Sadwrn.

Yn ôl y mudiad Mouvement des gilets jaunes a chwaraeodd ran allweddol yn y protestiadau y penwythnos diwethaf, roedd mwy na 700 o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio ledled Ffrainc ddydd Sadwrn.

 

 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.