Rhybudd am gau ffordd brysur yn y gogledd dros nos am bum noson
Mae Traffic Cymru wedi rhybuddio y bydd rhan o ffordd brysur yng ngogledd Cymru yn cau dros nos am bum noson yn olynol ar ddechrau mis Tachwedd.
Bydd yr A55 ar gau bob nos i draffig sy'n teithio i'r gorllewin rhwng Cyffordd 22, Hen Golwyn, a Chyffordd 19, Glan Conwy, o nos Lun 2 Tachwedd tan fore Sadwrn 7 Tachwedd. Bydd y ffordd ar gau rhwng 19.30 a 06.00 y bore canlynol.
Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A547, drwy Fae Colwyn a Mochdre, cyn ymuno â’r A55 eto yng Nghyffordd 19.
Bydd Cyffyrdd 22, 21 a 20 hefyd ar gau i draffig sy'n teithio i gyfeiriad y gorllewin yn ystod y gwaith.
Ni fydd cerbydau sy’n lletach na thri metr yn cael teithio ar yr A55 i gyfeiriad y gorllewin rhwng Cyffordd 22 a Chyffordd 19 yn ystod y cyfnod hwn.
Fodd bynnag, bydd modd iddynt barcio dros nos mewn cilfan yn Llanddulas.
Bydd un lôn ar yr A55 tua’r dwyrain hefyd ar gau rhwng Cyffordd 19 a Chyffordd 22.
Mae Traffig Cymru wedi rhybuddio y gallai’r gwaith achosi mwy o sŵn na’r arfer ar adegau.
“Gallai hyn arwain at lefel uwch na’r arfer o sŵn o bryd i’w gilydd,” meddai llefarydd ar ran Traffig Cymru.
“Hoffwn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra a allai godi.”