Pen-y-bont: Cyhuddo dyn o lofruddio menyw 47 oed
Mae dyn 61 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio menyw 47 oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae Clifford Foster, 61 oed, o Ben-y-bont, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth mewn cysylltiad â marwolaeth Eleanor Barnfield, 47 oed.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Gwener.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio Claire Lamerton: "Mae fy meddyliau yn parhau ag anwyliaid Eleanor yn ystod y cyfnod hynod o anodd yma, ac maen nhw'n parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
"Nid yw hwn yn cael ei drin fel digwyddiad domestig, ac rwy'n annog y cyhoedd i beidio â dyfalu am yr amgylchiadau gan fod achos llys bellach ar y gweill."
Cafodd swyddogion eu galw i Heol Coity yn y dref am tua 12:43 ddydd Llun ar ôl derbyn adroddiad fod gwrthdrawiad wedi digwydd.
Ar ôl cyrraedd, fe wnaeth yr heddlu ddarganfod fod y gyrrwr wedi dioddef anafiadau nad oedd yn ymddangos fel eu bod yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad.
Cafodd y gyrrwr, menyw 47 oed o gymuned Gogledd Corneli, ei chludo i'r ysbyty ar ôl derbyn cymorth meddygol ond fe fu farw'n ddiweddarach.
Yn dilyn ymgyrch heddlu "sylweddol" yn ardal Ger-y-Nant o'r dref, cafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o'i llofruddio, ac mae bellach wedi cael ei gyhuddo.
Dywedodd teulu Eleanor Barnfield mewn teyrnged iddi ddydd Mercher: “Mam oedd y person mwyaf caredig, mwyaf cariadus a mwyaf dewr yn y byd.
"Roedd hi’n golygu popeth i ni, a bydd ei theulu a’i ffrindiau ymroddedig yn ei charu ac yn ei cholli’n fawr am byth. Hi oedd ein craig.”
