Carcharu dyn o Wynedd am 15 mlynedd yn ychwanegol i ddefryd flaenorol am dreisio
Mae dyn 37 oed o Wynedd sydd eisoes yn treulio 11 mlynedd yn y carchar wedi cael ei ddedfrydu i 15 mlynedd arall dan glo ar ôl i reithgor ei gael yn euog o bum cyhuddiad arall o dreisio.
Cafodd Thomas Cato ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau.
Roedd Cato eisoes wedi ei gael yn euog o dreisio yn 2023.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Simon Mills fod gan Cato hanes troseddol "gwael iawn".
"Rydych chi'n ddyn cryf a threisgar," meddai.
Bydd Cato yn treulio 15 mlynedd yn ychwanegol yn y carchar, a hynny wedi iddo gael ei ddedfrydu'n flaenorol i 11 mlynedd o garchar yn 2023.
Mae hynny'n golygu y bydd y ddwy ddedfryd yn cael eu cyflawni un ar ôl y llall, yn hytrach nag ar yr un pryd.
Dywedodd y Barnwr Mills fod y dystiolaeth yn dangos bod Cato yn peri risg sylweddol i eraill, yn enwedig menywod.
"Mae gan y llys dystiolaeth glir ac amlwg eich bod yn peri risg sylweddol iawn o achosi niwed difrifol, yn enwedig i fenywod," meddai.
Clywodd y llys ddatganiad gan y dioddefwr am effaith y troseddau arni.
Dywedodd y barnwr fod y niwed roedd Cato wedi ei achosi "i'w weld yn amlwg ar ei hwyneb".