Aberystwyth: Cyfyngu ymweliadau ward yn Ysbyty Bronglais achos bacteria heintus
Mae'r awdurdodau wedi gosod cyfyngiadau ar ymweld â ward yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn sgil achosion o haint C. diff.
Mae Ward Dyfi yn yr ysbyty wedi bod ar cau i gleifion newydd ers dydd Mercher, 21 Hydref, ac mae ymweliadau hefyd wedi’u cyfyngu.
Math o facteria yw C. diff - sy'n dwyn yr enw swyddogol Clostridioides difficile - sy’n gallu achosi dolur rhydd cas.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae cleifion sydd wedi’u heffeithio gan yr haint yn cael eu hynysu ar hyn o bryd.
Mae’r bwrdd iechyd yn dweud y bydd y cyfnod cau yn caniatáu i drefniadau gael eu hadolygu ac i waith glanhau gael ei wneud.
"Rydym yn atgoffa pobl i beidio ag ymweld â chleifion yn yr ysbyty os ydynt yn teimlo'n sâl," meddai'r bwrdd iechyd.
"Rydym yn gwneud hyn er mwyn cyfyngu ar ledaeniad haint a sicrhau bod ein cleifion mor ddiogel ac iach â phosib."
Beth yw C. diff?
Bacteria heintus yw C. diff sy'n gallu ymddangos pan fydd gwrthfiotigau’n tarfu ar y cydbwysedd arferol o facteria yn y coluddyn.
Gall y bacteria fod yn bresennol mewn oedolion iach heb achosi unrhyw niwed, ac mae hefyd i’w gael yn naturiol yng ngholuddion babanod.
Mae symptomau’n amrywio o ran difrifoldeb, ond mae'n gallu arwain at ddolur rhydd, twymyn, colli chwant bwyd, cyfog a phoen yn yr abdomen.
Mewn achosion prin, gall yr haint achosi llid difrifol yn y coluddyn.
Cafodd 104 o achosion o C. diff eu cofnodi yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda rhwng mis Ebrill a mis Medi 2026.
Cafodd cyfanswm o 728 o achosion o’r haint eu cofnodi ledled Cymru yn y cyfnod hwnnw.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd â’r nifer uchaf, gyda 190 o achosion, tra cofnodwyd 141 yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.