Gollyngiad olew i Afon Taf 'ar ben' yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae gollyngiad olew sydd wedi bod yn effeithio ar Afon Taf ers dydd Gwener bellach wedi dod i ben, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd y corff amgylcheddol ddydd Sadwrn fod hyd at 25,000 litr o gerosin wedi ei ollwng ger yr afon ar ôl adroddiadau am ollyngiad ddydd Gwener.
Mae’r llygredd wedi effeithio ar drigolion sy’n byw mewn sawl ardal, gan gynnwys Nantgarw, Trefforest, Glan-y-Llyn, Ffynnon Taf, Gwaelod-y-garth a Thongwynlais.
Daeth cadarnhad yn ddiweddarach gan gwmni GE Aerospace fod tanwydd wedi mynd i’r afon wrth i waith atgyweirio fynd rhagddo ar ei safle gerllaw.
Mewn diweddariad ddydd Mercher, bum niwrnod ar ôl yr adroddiadau cyntaf, dywedodd CNC nad oedd olew bellach yn gollwng i’r afon.
Dywedodd llefarydd fod asesiadau ecolegol a gwaith dadansoddi samplau yn mynd rhagddo er mwyn “ceisio deall y sgil-effeithiau amgylcheddol tymor byr a hirdymor".
Yn ôl asesiadau cychwynnol swyddogion CNC, bu farw llai na 10 o bysgod yn ystod y digwyddiad.
“Mae timau wedi bod yn gweithredu ar y safle ers i'r digwyddiad gael ei adrodd brynhawn Gwener, gyda swyddogion yn dod o hyd i ffynhonnell y llygredd am 19:30," medden nhw.
“Fe wnaethon nhw ymweld â'r safle bob dydd, gan gynnwys dros y penwythnos, i barhau â'r ymchwiliad ac i sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i atal gweddill y llygrydd rhag cyrraedd yr afon.
“Roedd yr ymchwiliad yn arbennig o gymhleth gan fod y llygrydd wedi dianc i system ddraenio dŵr tanddaearol, lle'r oedd y tanwydd yn cymysgu â dŵr ac yn llifo i geuffos gyfagos a llednentydd drwy nifer o wahanol lwybrau.”
Dywedodd y corff y byddai swyddogion yn adolygu rhagor o dystiolaeth wrth barhau â’u hymchwiliadau.
Wrth siarad â Newyddion S4C ddydd Sadwrn, roedd trigolion sy’n byw ger yr afon wedi mynegi pryder bod y llygredd wedi achosi cur pen a phroblemau gyda’u llygaid a’u gyddfau.
Mewn diweddariad ddydd Sul, dywedodd CNC ei fod yn “cymryd camau i fynd i'r afael â'r llygredd parhaus sy'n effeithio ar tua 4km o Afon Taf.”