Carchar am oes i fyfyriwr prifysgol am lofruddio dyn ifanc o Abertawe
Mae myfyriwr prifysgol a wnaeth lofruddio dyn ifanc o Abertawe yn y cartref roedden nhw’n ei rannu wedi cael dedfryd o garchar am oes.
Bydd yn rhaid i Zack Coughlan, 23 oed, dreulio o leiaf 28 mlynedd dan glo.
Roedd wedi gwisgo dillad du, mwgwd a menig i ymosod ar Jamie Collins, 21 oed, yng ngardd eu cartref yn Filton ar gyrion Bryste ar 8 Ebrill.
Clywodd Llys y Goron Bryste fod Mr Collins, a oedd yn fyfyriwr roboteg ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, wedi cael ei drywanu 30 o weithiau.
Fe wnaeth Coughlan ei adael i farw a seiclo i ffwrdd i gael gwared ar ei ddillad a’r gyllell a ddefnyddiodd i gyflawni’r ymosodiad.
Yn wreiddiol roedd Coughlan wedi gwadu iddo lofruddio Mr Collins, gan nodi dynladdiad.
'Ond newidiodd ei ble cyn i’r rheithgor ystyried ei ddyfarniad, ar ôl i’r barnwr ddweud nad oedd yr amddiffyniad o ddynladdiad yn berthnasol.
Fe wnaeth y barnwr Mr Ustus Linden ddedfrydu Coughlan i garchar am oes, gan orchymyn iddo dreulio o leiaf 28 mlynedd dan glo.
‘Person eithriadol o garedig’
Dywedodd y barnwr wrtho: “Roedd Mr Collins yn gyd-fyfyriwr i chi, yn ei flwyddyn olaf ar gwrs gradd mewn roboteg.
“Roedd Mr Collins yn ddelfrydwr a oedd â diddordeb ym mhroblemau’r byd a chymdeithas.
“Roedd ei ffrindiau’n unfrydol wrth ei ddisgrifio fel person eithriadol o garedig a meddylgar.
“Mae’n amlwg eu bod yn teimlo’n freintiedig eu bod wedi ei adnabod a bod ei golli wedi torri eu calonnau.”
Fe wnaeth y barnwr gyfeirio at effaith marwolaeth Mr Collins ar ei deulu.
“Ni fydd y creithiau emosiynol yr ydych wedi’u hachosi byth yn gwella’n llwyr ac, yn anffodus, ni all unrhyw beth y gall y llys hwn ei ddweud na’i wneud droi’r cloc yn ôl,” meddai.
Dywedodd Mr Ustus Linden fod Adam Vaitilingam KC, ar ran yr erlyniad, wedi disgrifio’r lladd fel “gweithred a gafodd ei chynllunio’n ofalus a’i chyflawni’n ddideimlad”.
Ychwanegodd ei fod yn cytuno â’r disgrifiad hwnnw.
Clywodd y llys fod Coughlan wedi cynllunio llofruddiaeth Mr Collins am wythnosau, gan brynu dillad ac esgidiau du ar 27 Mawrth a gwneud chwiliadau ar y rhyngrwyd ar ei ffôn megis “sut mae corff yn edrych”.
Ar ddiwrnod y llofruddiaeth, aeth i lwybr y tu ôl i’r tŷ a newid i’r dillad er mwyn cuddio ei hun.
Yna gorweddodd Coughlan yn aros am Mr Collins i ddychwelyd o’r brifysgol am fwy nag 20 munud, cyn ymosod arno wrth iddo agor giât yr ardd ychydig cyn 6pm.
Cafodd yr ymosodiad ei ddal ar gamera CCTV a oedd wedi’i osod yn yr eiddo gan Coughlan.
Defnyddiodd y diffynnydd feic Mr Collins i seiclo i ffwrdd o’r lleoliad, gan ei adael mewn parc manwerthu cyfagos cyn cerdded i bwll hwyaid a thaflu ei ddillad â gwaed arnynt - mewn bagiau siopa wedi’u pwyso i lawr â brics - i’r dŵr.
Dychwelodd Coughlan i’r cartref tair ystafell wely yr oedd yn berchen arno ar Ffordd Cleve tua 21.00, rhoi pitsa yn y popty a chwarae gemau ar-lein gyda ffrindiau.
Ni wnaeth Coughlan ffonio 999 dan 02.00, gan honni ei fod newydd ddod o hyd i gorff Mr Collins yn yr ardd gefn.
Dweud celwydd wrth yr heddlu
“Parhaodd eich ymddygiad dideimlad wrth i chi wedyn ddweud celwydd wrth yr heddlu mewn ffordd gyfrwys a sinigaidd,” meddai’r barnwr.
Daeth archwiliad post-mortem i’r casgliad fod Mr Collins wedi cael ei drywanu mwy na 30 o weithiau ar flaen ei gorff, ei gefn a’i wddf.
Dywedodd y barnwr wrth Coughlan: “Ni fyddwn byth yn gwybod yn union pam y gwnaethoch ladd Mr Collins.”
Gwrthododd honiadau gan Coughlan yn ei dystiolaeth fod Mr Collins wedi mynegi teimladau treisgar tuag at unigolion hynod gyfoethog ac wedi dweud ei fod am ladd y diffynnydd.
“Y dystiolaeth yw ei fod yn enaid tyner,” ychwanegodd y barnwr.
“Yr hyn a ddaeth i’r amlwg o’ch tystiolaeth yn ei chyfanrwydd oedd, dros amser, eich bod wedi cynhyrfu’n fawr wrth sylweddoli nad oedd Mr Collins yn eich hoffi.”
Yn ystod yr achos, honnodd Coughlan ei fod wedi lladd Mr Collins ar ôl teimlo dan fygythiad pan fynegodd y myfyriwr safbwyntiau asgell chwith, a oedd yn erbyn landlordiaid, ac roedd yn flin ei fod yn codi rhent arno.
Ond mewn datganiad dioddefwr a ddarllenwyd i’r llys, disgrifiodd teulu Mr Collins dystiolaeth Coughlan fel rhywbeth “eithriadol o boenus” ac “yn llawn celwyddau”.
Dywedon nhw fod ei honiadau’n ymgais i “ddifrïo ac enllibio cymeriad rhagorol Jamie”.
“Rwy’n credu bod Zack Coughlan yn wir wedi teimlo dan fygythiad gan Jamie,” ychwanegodd ei lysfam, Lisa Collins, yn y datganiad.
“Ddim oherwydd bod Jamie erioed wedi ei fygwth, ond oherwydd ansicrwydd Zack Coughlan yn ei hun a’r realiti fod ffrindiau Zack Coughlan yn troi fwyfwy tuag at Jamie.”
Ychwanegodd Mrs Collins mai’r hyn a gollodd Coughlan reolaeth drosto yn yr achos oedd ei “reolaeth dros ei grŵp cyfoedion a’i boblogrwydd”.
“Roedd Zack Coughlan yn gwybod bod Jamie yn berson gwell nag ef,” meddai.
“Roedd Zack Coughlan yn genfigennus o onestrwydd a chryfder Jamie.”
Disgrifiodd effaith ddinistriol marwolaeth Mr Collins ar ei deulu a’i ffrindiau, gyda nifer ohonynt yn bresennol bob dydd o’r achos.
Clywodd y llys fod Mr Collins bron â chwblhau ei radd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste, gyda dim ond dau ddarn arall o waith cwrs i’w cwblhau cyn iddo gynllunio dychwelyd adref i Abertawe ddiwedd Ebrill.
Roedd ei deulu’n bresennol yn ei seremoni raddio, lle’r oedd Mr Collins wedi casglu digon o ganlyniadau i ennill gradd 2:1.
Dywedodd Dan Pawson-Pounds KC, a oedd yn cynrychioli Coughlan, nad oedd ganddo unrhyw euogfarnau blaenorol.
“Roedd yn rhywun yr oedd ei grŵp cyfoedion yn meddwl yn dda iawn ohono,” ychwanegodd Mr Pawson-Pounds.
Cyfeiriodd y bargyfreithiwr at gefndir anodd Coughlan a dywedodd y diffynnydd yn ei dystiolaeth ei fod yn cynnwys trais corfforol gan ei dad, gyda’i fam yn aml yn gweithio oddi cartref.