'Siom' i beidio bod yn gymwys am basbort Covid-19

Newyddion S4C 22/09/2021

'Siom' i beidio bod yn gymwys am basbort Covid-19

Mae Cymraes a gymerodd ran mewn ymchwil meddygol ar gyfer datblygu un o’r brechlynnau yn erbyn Covid-19 yn dweud ei bod hi wedi ei ‘siomi’.

Niw yw brechlyn Novavax wedi ei gymeradwyo ac felly all y bobl a gyfrannodd at y profion ddim cael tystysgrif neu basbort Covid-19.

Un o’r cyfranwyr hynny oedd y gyn-nyrs Gwenfair Jones o Wersyllt, ger Wrecsam.

Mae hi’n rhwystredig na all hi fynd ar wyliau tramor gyda’i theulu ac felly wedi penderfynu cymryd brechlyn gwahanol - er nad oes unrhyw wybodaeth am yr effeithiau posib.

Yn ôl Novavax, maent mewn "sgyrsiau gweithredol" gydag asiantaethau rheoleiddio.

Dywedodd Ms Jones: “Dwi’m yn meddwl bod ni wedi cael y wybodaeth dros y misoedd dwytha am sut mae pethau’n symud ymlaen, pam bod o ddim wedi cael ei basio.

“A fyswn i’n licio gwybod faint o cover s’gen i efo Novavax, ond wnân nhw ddim dweud hynny wrthom ni.

“Felly, do, dwi wedi cael fy siomi.

“Dwi ddim yn flin achos fy mhenderfyniad i oedd i fynd ar y trial yn y lle cyntaf, so alla i ddim bod yn flin, ond dwi isio’r llythyr yna’n dweud bod fi’n cael mynd dros y dŵr.”

Er mwyn derbyn y dystiolaeth brechu felly, mae Ms Jones wedi derbyn brechlyn arall.

“Roedd Novavax yn reit bendant bod nhw ddim yn gallu rhoi dim cyngor i ni, fysan ni ddim yn gallu dweud wrthom ni be’ fyse’r sgil effeithiau o fod wedi cael dau frechlyn gwahanol.”

“Roedd o’n gorfod bod yn benderfyniad i mi a fel lot o bobl eraill dwi wedi cymryd y penderfyniad bod fi isio cael y llythyr yn deud bod fi wedi cael fy mrechu.”

Mae Llywodraeth Prydain yn dweud y dylai unrhyw benderfyniad gan bobl o’r treialon i dderbyn brechlyn gwahanol gael ei wneud ar y cyd efo’r meddygon sy’n arwain y profion.

Maen nhw’n dweud na ddylai pobl fel Ms Jones fod o dan anfantais pan ddaw hi i dystysgrif brechlyn a bod y llywodraeth yn gweithio i geisio datrys y sefyllfa.

Yn ôl yr Athro Arwyn Tomos Jones o Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd, mae’n anodd gwybod pam nad ydy brechlyn Novavax wedi ei gymeradwyo erbyn hyn.

“Mae nhw’n amlwg yn edrych ar y data, boed o’n ddiogelwch, effeithiolrwydd.”

“A hefyd, os ydy hwn yn cael ei gymeradwyo, ydyn nhw’n barod i wneud miliynau o doses ohono fo?”

Mae Ms Jones yn dweud na fydd hi’n cymryd rhan mewn treialon yn y dyfodol.

Yn ôl Novavax, maent yn trafod gydag asiantaethau rheoleiddio i gwblhau eu cyflwyniadau yn y gobaith o gymeradwyo'r brechlyn.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Novavax: "Gwnaeth cyfranogwyr treialon clinigol gyfraniad hanfodol yn ystod pandemig byd-eang digynsail. Yn ogystal â gweithio ddydd a nos i gwblhau'r broses gyflwyno, mae Novavax yn gwneud popeth o fewn ein gallu i eirioli ar eu rhan i gefnogi prawf o frechu y tu allan i'r DU."

Mae’r corff sy’n cymeradwyo brechlynnau - yr MHRA - yn dweud na allan nhw wneud sylw ar amseru na manylion y broses drwyddedu am resymau cyfrinachedd masnachol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.