Cyhuddo Llywodraeth Cymru o 'geisio rhwystro' cynllun radar yn Sir Benfro sydd â chefnogaeth Trump
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhuddo o rwystro cynllun amddiffyn rhyngwladol sydd â chefnogaeth Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, yn Sir Benfro.
Yn ôl papur newydd The Telegraph, mae gweinidogion Llywodraeth y DU yn ddig yn dilyn penderfyniad y Llywodraeth yng Ngorffennaf i gymryd cyfrifoldeb am gais cynllunio ar gyfer gorsaf radar ym Marics Cawdor, ger Tyddewi.
Mae’r papur yn adrodd y gallai gwrthwynebiad “ideolegol” Plaid Cymru i’r cynllun beryglu prosiect amddiffyn ar y cyd rhwng y DU, yr Unol Daleithiau ac Awstralia.
Dywedodd ffynhonnell Lafur wrth y papur fod Plaid Cymru yn gwrthwynebu’r prosiect oherwydd ei bod yn ystyried yr Unol Daleithiau yn “elyn”.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru mai "mater o bolisi cynllunio, nid polisi amddiffyn," oedd y penderfyniad i alw’r cais i mewn.
Fe wnaeth y tair gwlad gytuno i ddatblygu rhaglen DARC (Deep Space Advanced Radar Capability) yn 2023, gyda’r nod o wella’r gallu i fonitro gwrthrychau yn y gofod a diogelu gwasanaethau lloeren.
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn eisiau codi 27 o ddysglau radar ym Marics Cawdor, safle a oedd i fod i gau erbyn 2028.
Ond mae’r cynllun wedi wynebu gwrthwynebiad chwyrn yn lleol.
Yn ôl y grŵp ymgyrchu PARC, cafodd dros 1,100 o wrthwynebiadau eu cyflwyno yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus, gydag un ymateb o blaid y cynllun.
Dywedodd y grŵp hefyd fod bron i 20,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn erbyn y datblygiad.
'Cam sylweddol'
Ym mis Gorffennaf, fe wnaeth y Gweinidog Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, benderfynu galw’r cais cynllunio i mewn, gan olygu mai Gweinidogion Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Mewn llythyr, dywedodd fod y cynllun yn codi materion diogelwch cenedlaethol ac y gallai wrthdaro â pholisïau cynllunio ynghylch tirwedd, ecoleg a chynaliadwyedd.
Fe wnaeth PARC groesawu’r penderfyniad fel “cam sylweddol”.
Ond dywedodd ffynhonnell Lafur wrth The Telegraph fod Llywodraeth Cymru yn oedi’r prosiect oherwydd safbwynt “gwrth-Americanaidd” Plaid Cymru.
Fe wnaeth AS Llafur Sir Benfro, Henry Tufnell, hefyd feirniadu’r penderfyniad, gan ddweud ei fod yn creu ansicrwydd ynghylch cynllun a allai roi hwb i economi’r ardal.
Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn, byddai’r datblygiad yn creu tua 100 o swyddi ac yn helpu i ddiogelu gwasanaethau lloeren hanfodol.
Dywedodd llefarydd fod DARC yn “hanfodol i wydnwch a diogelwch cenedlaethol y DU”.
Bydd arolygydd cynllunio annibynnol yn ystyried y cais cyn cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru.
Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb i Blaid Cymru.