Cannoedd wedi eu harestio ar draws Ffrainc mewn diwrnod o brotestiadau
Mae cannoedd o bobl wedi’u harestio yn Ffrainc wrth i ddegau o filoedd gymryd rhan mewn protestiadau ar draws y wlad.
Mae protestiadau’n cael eu cynnal mewn sawl dinas ddydd Sadwrn yn erbyn cynnydd mewn costau byw ac i alw am wella safonau addysg y wlad.
Mae 272 o bobl wedi’u harestio ar draws Ffrainc hyd yma, ac mae tân wedi torri allan mewn swyddfa dwristiaeth yn ninas Lyon.
Mae protest fawr yn cael ei chynnal ym Mharis, gyda’r brif orymdaith wedi bod yn heddychlon ar y cyfan.
Ond yn ôl Gweinyddiaeth Mewnol Ffrainc, “mae sawl grŵp protest sydd heb gael caniatâd swyddogol yn ceisio ymgynnull ger canolfannau llywodraethol” y brifddinas.
Ychwanegodd llefarydd: “Mae’r heddlu yn ymyrryd i atal y grwpiau rhag cyrraedd y safleoedd hyn ac i sicrhau diogelwch adeiladau sefydliadau’r wladwriaeth.”
Dywedodd y weinidogaeth fod protestwyr wedi llwyddo i fynd i mewn i neuadd y ddinas ym Marseille, a bod rhai busnesau yno wedi’u fandaleiddio.
Mae neuadd y ddinas yn Grenoble hefyd wedi’i difrodi, tra bod busnesau yn Pau, Montpellier, Toulouse a Valence wedi’u fandaleiddio.
