Trump yn atal rhai sancsiynau newydd yn erbyn Rwsia

Llun: Reuters
Trump a Putin

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi atal rhai sancsiynau a thariffau newydd yn erbyn Rwsia, ddeuddydd cyn iddyn nhw ddod i rym.

Daw'r penderfyniad wrth i'r berthynas rhwng yr Unol Daleithiau ac Wcráin waethygu, yn dilyn anghydfod rhwng Trump ac Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky.

Cafodd y ddeddf sancsiynau ei chymeradwyo gan Gyngres yr Unol Daleithiau, cyn i Trump ei llofnodi'n gyfraith ar 18 Medi.

Ond mewn gorchymyn gweithredol nos Wener, fe gyhoeddodd Trump y byddai'n atal nifer o'r mesurau, gan ddweud bod hynny er budd cenedlaethol yr Unol Daleithiau.

Roedd y sancsiynau wedi'u cynllunio i roi rhagor o bwysau economaidd ar Rwsia yn sgil ei rhyfel yn Wcráin.

Roedden nhw'n cynnwys mesurau yn erbyn Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, swyddogion uchel eraill, banciau a llongau sy'n cael eu defnyddio i osgoi sancsiynau rhyngwladol.

Roedd y ddeddf hefyd yn cynnwys tariffau o hyd at 100% ar nwyddau o'r gwledydd sy'n prynu'r mwyaf o olew a nwy o Rwsia, gan gynnwys Tsieina ac India.

Bydd y penderfyniad i atal y mesurau yn parhau nes bydd Trump neu swyddogion uwch ei weinyddiaeth yn penderfynu bod angen gweithredu eto.

Nid yw'r gorchymyn yn dileu sancsiynau eraill yn erbyn Rwsia sydd eisoes mewn grym.

Anghydfod ynghylch disel

Daw'r datblygiad wythnos ar ôl i Trump gyhoeddi cytundeb dadleuol â Rwsia i gyflenwi disel i farchnadoedd rhyngwladol, mewn ymgais i ostwng prisiau tanwydd.

Mae prisiau ynni wedi codi'n sylweddol yn sgil y rhyfel yn Iran, gan roi pwysau gwleidyddol ar Trump cyn etholiadau canol tymor yr Unol Daleithiau ym mis Tachwedd.

Mae'r cytundeb wedi wynebu beirniadaeth gan wleidyddion Democrataidd a Gweriniaethol, sy'n poeni y byddai'n helpu i ariannu rhyfel Rwsia yn Wcráin.

Mae Zelensky hefyd wedi beirniadu'r cytundeb, gan rybuddio y byddai arian yn llifo'n ôl i Rwsia ac yn helpu Putin i ariannu'r rhyfel.

Wrth siarad mewn uwchgynhadledd yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel yn gynharach ddydd Gwener, fe gyhuddodd Zelensky Putin o beidio â bod o ddifrif ynghylch dod â'r rhyfel i ben.

Yn ystod yr wythnos, fe gyhoeddodd Trump fod Rwsia ac Wcráin wedi cytuno i roi'r gorau i ymosod ar seilwaith ynni ei gilydd.

Ond fe ddywedodd Zelensky fod Rwsia wedi parhau â'i hymosodiadau, ac fe ailddechreuodd Wcráin dargedu purfeydd olew Rwsia.

Fe ddisgrifiodd Trump yr ymosodiadau hynny fel "gwarth", ond fe fynnodd Zelensky ei fod yn amddiffyn buddiannau Wcráin a'i phobl.

Mae pryderon hefyd wedi codi yn Wcráin ynghylch cyfyngiadau ar Starshield, gwasanaeth cyfathrebu lloeren milwrol sy'n gysylltiedig â Starlink ac sy'n cael ei ddefnyddio gan luoedd Wcráin.

Fe ddywedodd Zelensky ddydd Gwener nad oedd y gwasanaeth wedi'i adfer yn llawn. Mae Trump wedi gwadu ei fod wedi gorchymyn unrhyw gyfyngiadau arno.

Mae pryderon hefyd wedi codi ynghylch rhannu gwybodaeth gudd rhwng yr Unol Daleithiau ac Wcráin, ond mae Trump wedi gwadu bod y gwasanaeth hwnnw wedi'i atal.

Beirniadaeth o'r penderfyniad

Mae penderfyniad diweddaraf Trump wedi ennyn beirniadaeth gan aelodau o Gyngres yr Unol Daleithiau.

Fe gyhuddodd y Democrat Don Beyer Trump o ildio i Putin ac o fradychu partneriaid America yn Wcráin.

Roedd y penderfyniad, meddai, yn mynd yn groes i fwriad y Gyngres i gosbi Rwsia am ei rhyfel yn Wcráin.

Fe gyhuddodd y Seneddwr Democrataidd Richard Blumenthal Trump o droi ei gefn ar gynghreiriaid Ewropeaidd yr Unol Daleithiau.

Ond fe groesawodd cynrychiolydd buddsoddi Putin, Kirill Dmitriev, y penderfyniad, gan ei ddisgrifio fel eiliad wirioneddol hanesyddol.

Yn ôl Dmitriev, fe allai'r sancsiynau fod wedi dod â bron pob cydweithrediad economaidd rhwng Rwsia a'r Unol Daleithiau i ben.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.