Yr actores Lauren Morais yn dod ag acen Caerdydd i fyd Marvel
Mae actores ifanc o Gaerdydd wedi cymryd cam mawr yn ei gyrfa drwy serennu yn y gyfres VisionQuest, a rhannu acen y brifddinas gyda'r byd yr un pryd.
Mae Lauren Morais yn dod o Lanrhymni yng Nghaerdydd, ac mae ei pherfformiad diweddaraf wedi ei galluogi i actio yn ei hacen naturiol.
Mae stori VisionQuest adrodd hanes y cymeriad Vision a chymeriadau newydd, yn dilyn anturiaethau cyfres fer WandaVision.
Mae’r Gymraes yn actio'r cymeriad Lisa Molinari yn y gyfres ar Disney+.
Bydd rhai gwylwyr eisoes yn ei hadnabod o’r ddrama Ar y Ffin.
Hi oedd merch cymeriad Erin Richards yn y ddrama honno.
Graddiodd Lauren o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2023, ac yn yr un flwyddyn enillodd Ysgoloriaeth Amrywiaeth S4C i gefnogi ei datblygiad fel actores.
Roedd cael defnyddio ei hacen Gymraeg yn destun balchder i Lauren, ac mae'n teimlo’n addas i’r cymeriad, meddai.
"Fe wnaethon nhw gadael fi i wneud fy acen Gymraeg, ac o’n i mor cyffrous am hwnna oherwydd o’n i jyst yn teimlo bod e’n wneud synnwyr am y cymeriad o Lisa Molinari,' meddai wrth Newyddion S4C.
"Fi mor chuffed am e, i gael Cymraeg mewn Marvel, fi mor chuffed."
'Rollercoaster' yw’r gair mae Lauren yn ei ddefnyddio i ddisgrifio’r broses o gael ei dewis i bortreadu ei chymeriad.
"Yn gyntaf wnes i gael tâp trwyddo, a wnaeth e ddweud, Untitled Marvel Project, so o’n i mor cyffrous am hwnna."
Cafodd wahoddiad i ail glyweliad, cyn cyfres o gyfarfodydd â chyfarwyddwyr castio, sesiynau i weithio drwy olygfeydd ac ymweliadau â Stiwdios Pinewood yn Lloegr.
Ar ôl sawl chemistry read, sesiynau i weld sut roedd hi a’i chyd-seren Ruaridh Mollica yn gweithio gyda’i gilydd, daeth yr alwad i gadarnhau ei bod wedi cael y rôl.
Roedd Lauren yn gweithio mewn sinema ar y pryd, ac roedd yn anodd amgyffred y newyddion.
"Mae hwn jest yn mad, fel, beth sy’n mynd ymlaen? Oedd e mor gyflym, a mor gyffrous," meddai.
Acen Caerdydd mewn byd ‘Marvel-aidd’
Mae Lauren yn chwarae Lisa Molinari, cymeriad sy’n newydd i fydysawd sinematig Marvel:
"Mae hi (Lisa) yn pick-pocket, a dyna sut ti’n cwrdd â hi yn Borough Market, a dwi’n meddwl mae hi bach yn mischievous, yn meddwl yn rili gyflym ac yn barod am unrhyw beth sy’n mynd i daro hi."
Dywedodd Lauren wrth Newyddion S4C fod rhoi acen Caerdydd i Lisa yn teimlo’n naturiol, yn enwedig gan fod ei chyd-seren Ruaridh Mollica yn defnyddio acen yr Alban.
Ac nid yr acen oedd yr unig flas o Gymru ar y set - bu Lauren hefyd yn dysgu ychydig o Gymraeg i’w chyd-seren.
"Fi’n cofio dysgu Ruaridh y gair diolch. Oeddwn i yn dysgu ychydig o quips Cymraeg.
"I glywed yr acen Cymraeg gyda’r acen yr Alban, dwi’n meddwl oedd hwnna’n wneud llawer o synnwyr," ychwanegodd.
Wrth gofio ei diwrnod cyntaf ar y set, dywedodd Lauren ei bod yn teimlo fel petai “mewn gwlad arall”.
O olygfeydd ymladd i weithio gyda breichiau robotig, roedd y profiad yn un gwahanol iawn iddi.
"Oedd hwnna yn teimlo yn hynod o Marvel-aidd, sai’n gwybod os mae hynny yn air, ond fi wedi creu e lan. Marvel-aidd iawn."
Ymhlith y gwahaniaethau mwyaf amlwg i Lauren roedd maint y setiau - a’r wynebau newydd o’i chwmpas.
Dywedodd am y profiad o weithio yng Nghymru: "Pan ti’n mynd i set, ti’n gwybod llawer o bobl.
"Ag oedd hynna’n rhywbeth fi’n rili caru am weithio yng Nghymru. Es i i’r set yma, a ddim yn nabod neb, er oedd yn llawer o hwyl hefyd."
‘Sylfaen fy ngyrfa’
Wrth edrych yn ôl ar ddechrau ei gyrfa, dywedodd Lauren fod gweithio ar gynyrchiadau yng Nghymru a thrwy gyfrwng y Gymraeg wedi gosod y sylfeini.
"Dwi’n meddwl bod gweithio yng Nghymru a trwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn sylfaen fy ngyrfa.
"Wnes i ddechrau mewn cyfres o’r enw Y Gyfrinach pan o’n i yn y Goleg Brenhinol ac wnes i ddysgu lot am bod ar set, ti’n gwybod, fel y celf ei hun o actio a ddysgu o bobl o gwmpas fi," meddai.
Ers hynny, mae Lauren wedi ymddangos yn Ar y Ffin a’r fersiwn Saesneg o’r ddrama, Mudtown.
"Fi mor diolchgar am y gallu i siarad Cymraeg a bod o Gymru, a ti’n gwybod beth, mae’n dod nôl i’r pethau syml a jyst tyfu lan yng Nghymru. Fel gwneud Eisteddfodau, canu, barddoniaeth a chân-actol."
Dywedodd Lauren ei bod wedi bod yn 'angerddol' am y gweithgareddau hynny wrth dyfu i fyny, a’i bod bellach “mor hapus” ei bod yn "gallu dod a chunk bach o hwnna mewn i’r Marvel Cinematic Universe'".
