Archdderwydd newydd Cymru yn dilyn ôl troed ei dad

Archdderwydd newydd Cymru yn dilyn ôl troed ei dad

Dros 30 mlynedd ers i'w dad, y Parchedig John Gwilym Jones, ei gadeirio yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Tudur Dylan Jones bellach yn paratoi i ddilyn yn ei ôl troed fel Archdderwydd Cymru.

Cafodd Tudur Dylan ei ethol yn ddarpar Archdderwydd newydd Cymru yn wythnos Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ym mis Awst. 
 
Fe gafodd olynydd Mererid Hopwood ei ddewis gan aelodau’r Orsedd drwy bleidlais post, gyda’r canlyniad wedi ei gyhoeddi ar faes y Brifwyl.
 

Fe fydd Tudur Dylan yn dilyn llwybr ei dad, y Parchedig John Gwilym Jones a fu'n Archdderwydd rhwng 1993 a 1996 , a'i ewythr y Parchedig T James Jones a fu'n Archdderwydd rhwng 2009 a 2013.

Mae Tudur Dylan wedi ennill y Gadair ddwywaith, gan ennill y gyntaf yn Eisteddfod Bro Colwyn 1995. 

Fe enillodd ei ail Gadair yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau 2005, cyn mynd ymlaen i ennill y Goron yn Eisteddfod Sir y Fflint 2007. 

Ond roedd Eisteddfod Bro Colwyn 1995 yn un arbennig, gan mai'r Archdderwydd ar y pryd a'r person a fyddai'n ei gadeirio oedd ei dad. 

Image
Tudur Dylan Jones a'i dad John Gwilym Jones
Fe wnaeth John Gwilym Jones gadeirio ei fab, Tudur Dylan Jones yn Eisteddfod Bro Colwyn 1995. Llun: BBC Cymru Wales

"Roedd o'n deimlad braf i fi gael fy nghadeirio gan fy Nhad a ma' hynny dipyn o flynyddoedd nôl erbyn hyn," meddai Tudur Dylan wrth Newyddion S4C. 

Ychwanegodd ei dad, John Gwilym Jones: "O roedd e'n foddhad dymunol dros ben, i ddweud y gwir.

"Ond, be sy'n dda yw nid chi sy'n paratoi ar gyfer rhywbeth fel 'na, mae'r cystadlu a'r beirniaid yn gwbl annibynnol. Felly dim ond y cyflwyno yn y seremoni sy'n dod i'ch rhan chi fel Archdderwydd."

Seremoni’r Cadeirio Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las oedd seremoni olaf yr Archdderwydd presennol, Mererid Hopwood, er y bydd yn parhau yn y rôl hon nes trosglwyddo’r awenau i Tudur Dylan yn seremoni Cyhoeddi Eisteddfod 2028 y flwyddyn nesaf.

Wrth siarad am ei rôl newydd, fe ddywedodd Tudur Dylan: "Dw i'n ei theimlo hi'n dipyn o anrhydedd, bo' fi 'di cael fy ethol yn Archdderwydd, ond dw i'm yn siwr sut bydda i'n teimlo, y flwyddyn nesa pan fydd y peth yn digwydd. 

"Ond, 'na ni. Fel mae 'nhad yn deud yn aml iawn, 'Gawn ni weld sud eithi' '.... dwi'n mynd i ddwyn ei frawddeg o."

Image
Tudur Dylan
Tudur Dylan Jones a

Roedd hi'n dipyn o sioc i John Gwilym Jones wedi'r cyhoeddiad mai ei fab fydd yr Archdderwydd nesaf. 

"Roeddwn yn synnu mewn ffordd ei fod e wedi meddwl amdani o gwbl. Ond, mae'n wir am yr arfer sydd gyda'r Orsedd, mai rhywun arall fydd yn ei enwebu fe ynde," meddai. 

"Mae hynny yn digwydd. Nid chi eich hunan o angenrheidrwydd sydd isie gwthio eich hunan ymlaen ynde. Yn wyneb, sefyllfaoedd sy'n codi, mae yna bethau annisgwyl weithiau yn digwydd."

Yn ystod Eisteddfod Bro Colwyn 1995 hefyd, fe wnaeth John Gwilym Jones goroni ei frawd, Aled Gwyn. 

Image
Aled Gwyn
John Gwilym Jones yn coroni  ei frawd, Aled Gwyn, yn Eisteddfod Bro Colwyn 1995. Llun: BBC Cymru Wales

Wrth siarad ar y pryd, dywedodd Tudur Dylan: "Ges i dipyn o sioc o weld y llythyr mod i wedi ennill. Wedyn pan ges i wybod bod fy ewyrth wedi ennill hefyd, dw i'm yn meddwl mod i yn coelio'r peth tan heddiw."

Ychwanegodd ei dad ym 1995: "Rwy' yn credu bod 'na elfen gref o lwc yng nghanlyniadau'r Gadair a'r Goron bob blwyddyn, mae 'na.

"Ond, efallai bod y ddau ohonyn nhw wedi rhoi gronyn o ymdrech ychwanegol eleni, falle, wrth gyfansoddi. "

Dywedodd John Gwilym Jones ei bod hi'n fraint cael bod yn Archdderwydd, ond nad yw hi'n rôl hawdd bob amser. 

"Mae'n fraint cael gwneud, ond, mae'n codi llawer o ofnau a phryderon, yn enwedig o flaen ambell i seremoni," meddai.

Ond fe ddywedodd Tudur Dylan ei fod yn falch fod ganddo ddoethineb a phrofiad ei dad wrth edrych ymlaen at ymgymryd â'r rôl.

"Mae'r ffaith fy mod i'n gwybod bod o wedi bod yn y swydd o fy mlaen i, dw i'n siwr y bydda i'n gallu picio draw neu godi'r ffôn os bydd unrhyw broblem yn codi neu os bydda i angen cyngor," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.