Newyddion S4C

Gobaith am 'hwb enfawr' os daw gwaharddiad yr UDA ar allforion cig oen i ben

Dafad

Mae'r corff Hybu Cig Cymru wedi dweud y gallai codi’r gwaharddiad ar allfforion cig oen o Brydain i'r UDA olygu "hwb enfawr" i’r sector amaeth a bwyd yng Nghymru.

Daw hyn yn dilyn sylwadau gan Brif Weinidog y DU Boris Johnson yn dilyn trafodaethau gydag arweinwyr y Cenhedloedd Unedig a’r Arlywydd Biden ddydd Mercher.

Dywedodd Mr Johnson y byddai gwaharddiad yr UDA ar gig oen yn cael ei godi, a hynny ar ôl iddo fod mewn grym ers 25 mlynedd.

Byddai codi'r gwaharddiad yn galluogi ffermwyr i allforio eu cynnyrch i'r wlad honno am “y tro cyntaf ers degawdau” meddai Mr Johnson.

Nid oes cadarnhad wedi dod gan y Tŷ Gwyn eto fod y gwaharddiad yn dod i ben.

'Siwrne hir'

Wrth ymateb i sylwadau Mr Johnson ddydd Mercher, dywedodd Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru, Gwyn Howells: “Mae sicrhau mynediad i’r farchnad gig oen i UDA wedi bod yn siwrne hir, ac mae’n edrych fel pe baem bron ar ddiwedd y daith.

“Nid yw’r gwaharddiad, a ddaeth yn ôl ym 1996, wedi bod yn angenrheidiol ers blynyddoedd lawer. Ond mae wedi cymryd ymdrech hir a llawer o waith technegol i oresgyn y gwahanol rwystrau gweinyddol.

“Mae marchnad addawol ar gyfer Cig Oen Cymru o ansawdd uchel yn America, yn enwedig yn y fasnach gwestai a bwytai ar yr arfordir ddwyreiniol.

“Byddai codi’r gwaharddiad hwn yn newyddion da i ffermwyr a phroseswyr defaid Cymru."

Image
Dafad

'Newyddion da' i'r sector

Mae undeb NFU Cymru hefyd wedi croesawu'r awgrym y bydd gwaharddiad yr UDA ar allforion yn dod i ben yn fuan.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Da Byw NFU Cymru, Wyn Evans: “Ar ôl cael eu cau allan o farchnad yr UDA am dros 30 mlynedd, mae adroddiadau heddiw y gallai ffermwyr defaid o Gymru gael mynediad i’r farchnad hon, allai fod yn broffidiol cyn bo hir yn newyddion da i’r sector.

"Rydym yn sicr am weld y gwaharddiad hwn yn cael ei godi fel y gall masnach ailddechrau cyn gynted â phosibl.

 “Mae ffermwyr defaid o Gymru yn hynod falch o’r Oen Cymreig PGI maethlon a blasus cynaliadwy o ansawdd uchel yr ydym yn ei gynhyrchu ac yn edrych ymlaen at y gobaith o allu rhoi’r cynnyrch blasus hwn ar blatiau defnyddwyr America yn y dyfodol agos.

“Rydyn ni nawr yn aros i glywed mwy o newyddion gan Ysgrifennydd Gwladol Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau i gadarnhau’r adroddiadau rydyn ni wedi’u derbyn yn dilyn sylwadau’r Prif Weinidog heddiw.”

Mewn datganiad, dywedodd Gweinidog Cysgodol Materion Gwledig y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, Samuel Kurtz: “Bydd y newyddion heddiw yn cynnig hwb enfawr i ddiwydiant amaethyddol Cymru.

"Mae'n bwysig nawr bod llywodraethau'r DU a Chymru yn cydweithio i hyrwyddo buddion cig oen Cymreig fel ei fod yn cyrraedd ei lawn botensial ar y farchnad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.