'Neis bod adre': Elfyn Evans yn cyrraedd Dolgellau i ddathlu ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd

15/10/2026

'Neis bod adre': Elfyn Evans yn cyrraedd Dolgellau i ddathlu ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd

Daeth miloedd o bobl i ganol Dolgellau nos Iau i groesawu Elfyn Evans yn ôl i'w ardal enedigol ar ôl iddo ef a'i gyd-yrrwr Scott Martin gipio teitl Pencampwyr Rali’r Byd.

Evans, sy'n dod o bentref cyfagos Dinas Mawddwy, ydy'r Cymro cyntaf i ennill y bencampwriaeth - a dim ond y trydydd o Brydain i wneud hynny.

Cafodd gymeradwyaeth gan filoedd o gefnogwyr a thrigolion lleol wrth iddo gyrraedd Sgwâr Eldon yng nghanol y dref, gyda'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, yn teithio yn y car hefyd.

Wrth siarad â Newyddion S4C yn gynharach yn y dydd, dywedodd Elfyn Evans ei bod hi'n "neis bod adre" a'i fod wedi derbyn llawer o gefnogaeth yn ystod y tymor ralio eleni.

"Wel yr ymateb, dwi'm yn gwybod ffordd i ddisgrifio fo rili," meddai.

"Fa'tha lot, lot 'di gyrru cardiau, lot 'di bod yn gyrru negeseuon. So, ie, teimlo'n, lwcus iawn a ti'n gwbo, diolchgar iawn i bawb am y gefnogaeth."

'Cymru ar y map'

Roedd Evans wedi gorffen yn ail yn y bencampwriaeth ar bump achlysur cyn iddo ennill y tlws mewn diweddglo dramatig yn y rali olaf y tymor yn Sardinia ddechrau'r mis.

Dywedodd Mr ap Iorwerth bod Evans yn arwr cenedlaethol.

"Mae Elfyn wedi rhoi Cymru ar y map go iawn," meddai. "Mae dod yn bencampwr byd yn rhywbeth sydd ddim yn digwydd ar chwarae bach.

"Mae'r ffaith bod hyn wedi dod ar ôl yr holl flynyddoedd o gysondeb yn dweud cymaint o yrrwr a chymaint o arwr ydy Elfyn."

Yn gynharach,  fe wnaeth y pencampwr byd ymweld â'i hen ysgol, gyda'r disgyblion yn Ysgol Bro Idris yn cael cipolwg ar y car a ddaeth â llwyddiant iddo.

Dywedodd ei fod eisiau rhoi cyfle i'r plant weld mwy o'r car nag y maen nhw wedi'i weld ar y teledu.

"Wel, wrth gwrs, ers colli Rali Cymru GB, dydy'r cyfle i'r plant gael gweld y ceir yma ddim yna, ddim chwaneg," meddai.

"A felly, ti'n gwybod, tra bod y car yma adre, dwi'n meddwl oedd o'n neud sens i ddod â fo 'ma a rhoi cyfle i'r plant gael gweld falle be ma'r car yn edrych fel o tu mewn a jyst rhoi blas bach iddyn nhw."

Dechreuodd y digwyddiad yng nghanol Dolgellau wrth iddi ddechrau nosi. Dywedodd Evans yn gynharach y byddai'n siarad am y tymor cyffrous wrth y dorf a "rhoid ychydig bach o display 'mlaen" gyda'r car.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.