Y Brenin Charles III yn agor Seithfed Senedd Cymru

Brenin Charles (PA)

Mae’r Brenin Charles III wedi agor Seithfed Senedd Cymru mewn seremoni ffurfiol ym Mae Caerdydd ddydd Iau.

Dyma’r tro cyntaf i'r Brenin Charles III agor y Senedd ers iddo ddod yn frenin yn 2022.

Roedd yr achlysur hefyd yn un hanesyddol, gan mai dyma oedd y tro cyntaf ers dechrau datganoli i'r seremoni gael ei chynnal gyda llywodraeth yng Nghymru nad yw dan arweiniad y Blaid Lafur.

Image
Brenin Charles III a'r Frenhines Camilla yn cyrraedd y Senedd (Llun: PA)
Brenin Charles III a'r Frenhines Camilla yn cyrraedd y Senedd (Llun: PA)

Wrth i'r Brenin gerdded i fyny grisiau'r Senedd, roedd protestwyr i'w clywed y tu allan yn protestio yn erbyn ei bresenoldeb.

Wrth annerch aelodau ar lawr y Senedd yn ystod y seremoni, dywedodd y Brenin mai "dyfalbarhad yw nodwedd amlycaf y genedl hynafol hon".

Dywedodd: "Mae’r Siambr hon, y sefydliad hwn, sydd bellach â’r enw mor briodol, Senedd Cymru, wedi’i drwytho yn ysbryd gwasanaeth cyhoeddus.

"Ac wrth gwrs, mae llawer mwy o Aelodau’r Senedd yn bresennol heddiw na phan sefais yma ddiwethaf.

"Mae llawer o wynebau newydd yma hefyd, yn ogystal, wrth gwrs, â phresenoldeb calonogol wynebau cyfarwydd sydd, fel y gallem ddweud, Yma o Hyd."

Ceiriog

Aeth yn ei flaen i ddyfynu geiriau un o feirdd amlycaf Cymru gan ddweud wrth yr aelodau:

“Aros mae’r mynyddau mawr,” meddai’r bardd Ceiriog. Roedd yn mynegi’r ymdeimlad hwnnw o gryfder a pharhad Cymru dros y cenedlaethau.

"Y dyfalbarhad hwnnw, y parhad hwnnw, y rhoddodd yr hanesydd mawr o Gymru, John Davies, deyrnged iddo yng ngeiriau olaf ei gyfrol hanes awdurdodol am Gymru. Ac mae’n bosibl iawn ei fod gyda ni yma yn y Siambr heddiw mewn mwy nag ysbryd yn unig."

Ychwanegodd y Brenin: “Cenedl wydn yw ein cenedl hon. Oherwydd dyfalbarhad yw nodwedd amlycaf y genedl hynafol hon.

"Y dyfalbarhad hwnnw, yn fy marn i, sydd mor hanfodol i’w warchod. Mae hynny’n wir am yr iaith a’r diwylliant, wrth gwrs."

'Anrhydedd'

Dechreuodd y seremoni gyda gorymdaith Aelodau o’r Senedd, dan arweiniad cludydd y byrllysg, a dau aelod o Senedd Ieuenctid Cymru a gafodd eu hebrwng gan Gorfflu Drymiau’r Gwarchodlu Cymreig. 

 

Image
Huw Irranca-Davies a Rhun ap Iorwerth yn cyrraedd y Senedd (Llun: PA)
Huw Irranca-Davies a Rhun ap Iorwerth yn cyrraedd y Senedd (Llun: PA)

Wrth agor y seremoni, dywedodd y Llywydd Huw Irranca-Davies AS: “Mae’n anrhydedd mawr i ni fod Eu Mawrhydi'r Brenin a’r Frenhines yma i rannu’r achlysur hwn gyda ni.

“Wrth edrych o amgylch y Siambr heddiw, rwy’n gweld y Senedd fwyaf cynrychioliadol yn ein hanes.

“Rwy’n gweld Aelodau y mae eu bywydau a’u profiadau yn adlewyrchu cyfoeth Cymru fodern.

“Pobl sydd wedi gofalu am eraill, wedi addysgu, ac wedi gwasanaethu eu cymunedau a’u gwlad.

“Pobl y daeth eu teuluoedd i Gymru a gwneud y wlad yn gartref iddynt, gan ddod yn rhan o’n hanes cenedlaethol cyffredin.

“A phobl y mae eu profiadau personol o wynebu heriau ac adfyd wedi helpu i’w llunio fel unigolion.

“Nid yw’r profiadau hynny’n aros wrth ddrysau’r Siambr hon. Maent yn dod i mewn gyda ni."

Ychwanegodd fod siâp y Siambr "yn ein hannog i edrych ar ein gilydd, i wrando, i herio ac i ddod o hyd i dir cyffredin lle bo hynny’n bosibl.

“Byddwn yn anghytuno. Fe ddylem anghytuno. Mae trafodaeth frwd yn rhan o ddemocratiaeth iach.

“Ond ni ddylem fyth golli golwg ar yr hyn sy’n dod â phob un ohonom yma: ein cyfrifoldeb ar y cyd i wasanaethu pobl Cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.