A aeth Magnus Maximus i'r Preselau? Tystiolaeth newydd gan archeolegydd
A aeth Magnus Maximus i'r Preselau? Tystiolaeth newydd gan archeolegydd
Mae archaeolegydd o Brifysgol Rhydychen wedi awgrymu ei fod wedi darganfod tystiolaeth newydd fod yna gaer Rufeinig wedi bod ar lethrau dwyreiniol y Preselau.
Yn ôl Dr Mark Merrony, mae'n bosib fod y darganfyddiad yn cadarnhau straeon yn y Mabinogion bod gan yr Ymerawdwr Magnus Maximus - neu Macsen Wledig - wersyll milwrol ger y Frenni Fawr.
Efallai ei fod fwyaf enwog bellach fel y 'Macsen' a unodd Cymru yng nghân Dafydd Iwan, 'Yma o Hyd'.
Ond roedd yr Ymerawdwr Magnus Maximus yn ddyn o gig a gwaed a bu'n teyrnasu am gyfnod byr dros yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol yn y bedwaredd ganrif.
Mae'n ymddangos hefyd yn y Mabinogion yn y stori Breuddwyd Macsen Wledig.
Mae'r chwedl honno yn sôn bod Macsen Wledig wedi mynd ar daith hela o Gaerfyrddin i'r Frenni Fawr, a'i fod wedi sefydlu gwersyll milwrol yno.
Mae'n debyg mai'r hen enw ar y Frenni Fawr oedd Cadair Macsen.
Mae Hedd Ladd Lewis yn hanesydd lleol ger y Frenni Fawr. Dywedodd ei fod yn credu bod angen "dipyn mwy o ymchwil" cyn dod i gasgliadau pendant.
"Roedd Magnus Maximus yn ymerawdwr ar Orllewin Ewrop am ddipyn o gyfnod a 'ni'n gwybod ei fod e wedi bod ar Ynys Prydain o tua 380 ymlaen," meddai.
"Mae'r chwedl amdano, Breuddwyd Macsen Wledig, yn ei gysylltu gyda'r hen chwedloniaeth, y Mabinogi. Dw i ddim yn synnu bod nhw wedi darganfod olion Rhufeinig yn yr ardal.
"'Ni'n ymwybodol o'r dref Rufeinig, Moridunum, sef Caerfyrddin ac maen nhw wedi darganfod Caer yng Nghas-wis ac mae yna nifer o heolydd Rhufeinig yn croesi'r ardal yma.
"'Dyw e ddim yn syndod bod yna gaer neu rhyw fath o safle ar gyfer y llengfilwyr yn yr ardal yma. Cwestiwn arall yw e a oes yna gysylltiad uniongyrchol gyda Macsen Wledig.
"Mae'n ddigon posib bod Macsen Wledig wedi bod yn yr ardal yma.
"'Dw i yn meddwl bod angen dipyn mwy o ymchwil i gysylltu y gwersyll yma sydd wedi ei ddarganfod yn uniongyrchol gyda Magnus Maxmimus."
Mae darganfyddiad gan Dr Merrony nawr yn awgrymu bod yna olion presenoldeb milwrol gan y Rhufeiniaid yn agos iawn at leoliad y chwedl, a taw hon yw'r ail gaer Rufeinig i'w darganfod yn Sir Benfro.
Cafodd y safle ei darganfod rhyw ddwy filltir i'r de orllewin o'r Frenni Fawr, trwy gymorth lloerennau, yn 2024.
Roedd y Rhufeiniaid ar y pryd yn wynebu bygythiadau yn yr ardal. gan lwyth y Demetae ac yn ddiweddarach gan y Gwyddelod.
Yn ôl Dr Mark Merrony, roedd y safle ger y Frenni Fawr yn gartref i rai cannoedd o filwyr. Mae crochenwaith, teils a cheiniogau Rhufeinig wedi eu darganfod ar y safle, ynghyd ag offer gwlân i wneud dillad a bwyell.
Mae Dr Leona Huey yn ddarlithydd mewn treftadaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Mae hi'n dweud bod Magnus Maximus "wedi teithio Prydain i gyd" yn ystod ei gyfnod fel ymeradwr ond 'dyw'r darganfyddiad ddim yn dystiolaeth bendant ei fod e wedi sefydlu gwersyll ger y Frenni Fawr.
"Da ni wedi ffeindio dwy geiniog o'r 4edd ganrif, sydd yn dod o amser Macsen Wledig," meddai.
"'Ni'n gwybod bod yna ryw fath o bobl yn byw yn y caer. Yn y chwedl, mae yna gaer yn yr ardal. A'i dyma'r caer o'r Mabinogion?
"'Dyw dwy geiniog ddim yn medru dweud pwy neu beth oedd pobl yn gwneud yna, ond efallai mae yna ryw fath o wirionedd i'r chwedl sydd wedi cael ei phasio lawr yn llafar am dros fil o flynyddoedd.
"Heb fwy o waith ar y safle, mae'n anodd iawn dweud a ydy hyn yn ran o chwedl y Mabinogion neu ydy e jyst yn un o'r olion Rhufeinig sydd ar draws Cymru a'r diwylliant Rhufeinig sydd ar draws Cymru."